Rhyw a Grym

Cynnydd malwoden

Gallai malwoden deithio o un pen i Wal Fawr Tsieina i’r llall mewn 212 o flynyddoedd, cyfnod nid annhebyg i’r 200 mlynedd y bydd ei angen i fenywod gael eu cynrychioli’n gyfartal yn y Senedd.

  

Bum mlynedd wedi’r adroddiad Rhyw a Grym cyntaf, mae’r Comisiwn yn cyhoeddi ei arolwg cyntaf o fenywod mewn swyddi ag iddynt rym a dylanwad.  Mae ymchwil ar gael hefyd ar gyfer yr Alban yn benodol.
Fel rhan o brosiect Gweithio’n Well y Comisiwn, mae’r adroddiad Rhyw a Grym yn dangos mai dim ond 11 y cant o swyddi cyfarwyddwyr 100 cwmni’r FTSE ac 19.3% o swyddi’r Senedd sy’n cael eu cyflawni gan fenywod.
Eleni, mae llai o fenywod yn swyddi uchaf 12 o’r 25 dosbarth lle ceir ffigurau ar eu cyfer.  Mewn pum dosbarth arall, mae’r nifer o fenywod heb newid ers mynegai 2007.  Dim ond mewn wyth maes y mae cynrychiolaeth menywod ar gynnydd.
Yn draddodiadol mae’r adroddiad yn amcangyfrif y nifer o flynyddoedd sydd eu hangen i fenywod ddod yn gyfartal mewn meysydd allweddol ar y raddfa gynnydd bresennol.  Mae adroddiad eleni’n dynodi y bydd hi’n cymryd 15 mlynedd arall (55 o flynyddoedd i gyd) i fenywod gyrraedd statws cyfartal mewn swyddi uwch ym myd barnwriaeth, a gallai menywod sy’n gyfarwyddwyr yn un o 100 cwmni’r FTSE orfod aros wyth mlynedd arall (73 o flynyddoedd i gyd).
Pe bai menywod yn cael eu cynrychioli’n gyfartal yn 31,000 o swyddi mwyaf dylanwadol Prydain o ran grym, mae’r Comisiwn yn amcangyfrif y byddai bron 5700 o fenywod ‘coll’ yn codi drwy’r rhengoedd i safleoedd o ddylanwad gwirioneddol.

• Sex and Power report 2008 (pdf 2.6MB)
• Sex and Power report 2008(Word 283KB)

Cyfweliadau Fideo

I gyd-daro â lansio Rhyw a Grym, rydym wedi recordio cyfweliadau byr â nifer o fenywod mewn swyddi uwch, gan gynnwys Harriet Harman, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur.  Gallwch weld y cyfweliadau ar y dudalen hon.
 

 

Yn y cyfryngau

Rhyw a Grym dros y pum mlynedd ddiwethaf

Sut mae mynegai'r flwyddyn hon yn cymharu â'r blynyddoedd blaenorol? Darllenwch argraffiadau blaenorol ar Ryw a Grym ar safle'r cyn Gomisiwn Cyfle Cyfartal. (yn Saesneg yn unig).

back to top