Mae gwireddu potensial plentyn yn dibynnu llawer mwy ar ei ddosbarth cymdeithasol nag ar ei allu a’i ymdrech. Mae hil, rhyw ac anabledd hefyd yn creu rhwystrau sylweddol i gael swyddi da a bywydau bodlon.
Canfyddiadau anghysurus fel hyn sydd wedi ysgogi’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i roi blaenoriaeth i weithio gyda phobl ifanc ac ar eu rhan.
Drwy weithio gyda’n prif bartneriaid, ac fel rhan o’r cynllun strategol tair blynedd, bydd y Comisiwn yn creu rhaglen o weithgareddau gydag ysgolion, rheoleiddwyr addysg, y sector ieuenctid a phobl ifanc eu hunain.
Ein prosiectau ar hyn o bryd yw: