21 June 2012
21 Mehefin 2012
Heddiw, amlinellodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gynlluniau ar gyfer ei fodel gweithredu a strwythur yn y dyfodol. Mae wedi dechrau ymgynghori ar gynigion i leihau ei weithlu i 150 o swyddi.
Nod y cynigion yw ateb yr heriau a ddaw yn sgil adnoddau llai, gan gynnwys penderfyniad y Llywodraeth na fydd y Comisiwn mwyach yn darparu swyddogaeth llinell gymorth. Hefyd, yr angen i gyflenwi cynllun strategol teirblwydd y Comisiwn a osodwyd gerbron y Senedd ym mis Ebrill eleni. Maent hefyd yn adlewyrchu’r cyd-destun cymdeithasol, ariannol, economaidd a newidiol y mae’r Comisiwn yn gweithio ynddo.
Mae’r cynigion yn yr ymgynghoriad yn adeiladu ar y ffordd y cyflenwodd y Comisiwn ei brosiectau mwyaf llwyddiannus, megis ei ymchwiliad ar ofal cartref i'r henoed, ei asesiad o’r adolygiad gwariant 2012 a’i waith ar stopio a chwilio. Maent yn adeiladu hefyd ar y cynnydd a wnaed gan y sefydliad i wella safon ei reoli.
Maent yn cynnwys gwireddi sefydliad sy’n cyflenwi ar ei fandad i’r senedd i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol, drwy wneud y defnydd gorau o wybodaeth, gan flaenoriaethu ei waith yn fwy effeithiol a gweithio’n agosach â sefydliadau eraill i gyflenwi prosiectau.
Mewn termau ymarferol, bydd y Comisiwn yn lleihau ei faintioli i gwtogi ei gostau, o’i 257 o swyddi presennol, gan eithrio staff y llinell gymorth [1], i oddeutu 150 o swyddi [2].
Yn ogystal, bydd y Comisiwn yn ceisio lleihau costau drwy weithredu o lai o swyddfeydd. Bydd yn cadw ei swyddfeydd yng Nglasgow a Chaerdydd, ac am o leiaf y deunaw mis nesaf, yn Llundain a Manceinion. Dros amser, y disgwyliad yw y bydd gweithio hyblyg a defnydd gwell o dechnoleg yn ei alluogi i weithredu o un lleoliad yn Lloegr, ar gyrion Llundain mwy na thebyg, yn ogystal â swyddfa yng Nghymru a’r Alban.
Meddai Mark Hammond, Prif Weithredwr y Comisiwn:
“Mae’r cynigion a amlinellir gennym heddiw yn sicrhau dyfodol y Comisiwn mewn cyfnod o wasgfa ariannol. Byddant yn caniatáu inni barhau i gyflenwi gwasanaeth cyhoeddus gwerthfawr drwy ein rôl fel yr arbenigwr cenedlaethol ar gydraddoldeb a hawliau dynol a gwarchodwr y safonau a osodwyd gan y Senedd.
“Rydym yn parhau i ymrwymo’n llwyr i ddyfodol y Comisiwn. Ond i gyflenwi ein mandad o’r senedd mae rhaid inni gynllunio am yr adnoddau llai sydd gennym am y dyfodol fel llawer i sefydliad arall. Canolbwyntio’n fwy yn yr hyn a wnawn yw canlyniad hyn, gan weithio’n agosach ag eraill ac arbed rhagor o arian yn ein gwariant i gynnig gwerth am arian i’r trethdalwyr.
“Er ei bod hi’n anodd colli cymaint o’n staff ymroddedig a rhagorol, byddwn yn cynnig cyfle teg a thryloyw i’n cyflogeion i gyd i fod yn rhan o’r comisiwn ar ei newydd wedd ac yn rhoi cymorth a chynhorthwy i’r rheiny sy’n gorfod ein gadael.”
Diwedd
Am fwy o wybodaeth i’r wasg, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar 020 3117 0255, y tu allan i oriau gwaith 07767 272 818. Ar gyfer ymholiadau cyffredinol cysylltwch â llinell gymorth genedlaethol y Comisiwn: Cymru 0845 604 8810, Yr Alban 0845 604 5510 a Lloegr 0845 604 6610.
1. Nid yw’r ymgynghoriad hwn yn cynnwys staff llinell gymorth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Nid ydynt wedi’u cynnwys chwaith mewn unrhyw ffigyrau o ran y swyddi presennol na’r rhai yn y dyfodol. Cynhwysir hwy mewn proses gwahanol a bydd y Llywodraeth yn dewis y cyflenwr i ddarparu’r Gwasanaeth Cymorth a Chyngor ar Gydraddoldeb y mae’n ei gomisiynu.
2. Nid yw’r ymgynghoriad a lansiwyd heddiw yn cynnwys y cyfarwyddwr gweithredol na’r swyddi ar lefel cyfarwyddwr yn y Comisiwn. Bu’r swyddi hyn yn destun i ymgynghoriad yn hydref 2011. O ganlyniad, mae nifer y swyddi ar lefel cyfarwyddwr a chyfarwyddwr gweithredol o fewn y Comisiwn wedi eu gostwng yn barod o 27 i 15. Mae’r 15 hyn yn rhan o’r 150 o swyddi a nodwyd uchod.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff statudol a sefydlwyd dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2006, a fabwysiadodd cyfrifoldebau’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r eiriolwr annibynnol dros gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain. Ei nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, cryfhau cysylltiadau da rhwng pobl, a hyrwyddo a diogelu hawliau dynol.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorfodi deddfwriaeth gydraddoldeb ar oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, rhyw, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol, ac yn annog cydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Rhydd hefyd gyngor a chyfarwyddyd i fusnesau, y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, ac i unigolion.