Ymchwil newydd yn pwysleisio’r angen am gynnydd cyflymach o ran stopio a chwilio

12 June 2012

12 Mehefin 2012

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi ymuno â Chymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu i alw am welliannau cyflymach i ddefnydd yr heddlu o stopio a chwilio. Mae wedi cyhoeddi ymchwil newydd sy’n adeiladu ar waith y Comisiwn sy’n mynd ymlaen ar stopio a chwilio ac mae’n dangos y cynnydd sy angen i rai heddluoedd ei wneud.

Mae’r ymchwil newydd yn bwrw golwg ar sut mae heddluoedd yn defnyddio pwerau stopio a chwilio o dan adran 60 y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994. Canfu fod rhai heddluoedd yn Lloegr yn stopio a chwilio cyfran cryn dipyn yn uwch o bobl Dduon, Asiaidd ac o ethnigrwydd cymysg nag eraill yn eu cymunedau.

Gellir cyfiawnhau hyn os mai taclo problem benodol ar y pryd yw’r bwriad. Fodd bynnag, nid oedd y wybodaeth a chafodd y Comisiwn bob amser yn egluro pam roedd rhaid targedu’r  grŵp ethnig penodol hwnnw o dan y gorchmynion hyn. O ganlyniad, mae’n anodd cyfiawnhau unrhyw anghydbwysedd o ran y rhai sy’n cael eu stopio a’u chwilio a gall hynny adael plismyn yn agored i hawliadau gwahaniaethu.

Ymgymerodd heddlu’r Metropolitan, Glannau Mersi, Swydd Caerhirfryn, Gorllewin Canoldir Lloegr a Heddlu Trafnidiaeth Prydain â mwy na 2,000 o achosion stopio a chwilio o dan adran 60 y ddeddf yn ystod 2008-11. O’r chwe heddlu hyn, Manceinion Fwyaf, Gorllewin Canoldir Lloegr a Heddlu Trafnidiaeth Prydain oedd â’r cymarebau Duon/ Gwyn a chymysg/ Gwyn mwyaf anghymesur. Roedd gan Orllewin Canoldir Lloegr hefyd, y cymarebau Asiaidd/Gwyn mwyaf anghymesur.

Mae gwaith y Comisiwn sy’n mynd ymlaen gyda’r heddlu ar stopio a chwilio o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1994 wedi arwain at welliannau arwyddocaol. Mae’n cydweithio’n llwyddiannus â’r pum gwasanaeth heddlu a oedd gynt â’r ffigurau anghymesuredd fwyaf o ran hil. Mae’r arwyddion cynnar yn dangos bod yr heddluoedd yn lleihau’r anghymesuredd ond yn parhau i blismona’n effeithiol ar yr un pryd.

 Meddai Simon Wooley, Comisiynydd arweiniol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar hil:

“Mae’n galonogol bod rhai heddluoedd, megis Heddlu Metropolitan, wedi gweld yr angen i ddod a stopio a chwilio anghymesur i ben. Mae plismona sy’n cael ei lywio gan dystiolaeth yn llawer mwy effeithiol, ac mae’n osgoi codi gwrychyn yr union bobl ddylai fod yn helpu’r heddlu i ddal troseddwyr.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu, y Swyddfa Gartref  a heddluoedd unigol i sicrhau bod plismona effeithiol ac sy’n cael ei dargedu yn cydymffurfio’n llawn hefyd â chyfrifoldebau’r heddlu i arddangos cydraddoldeb a pharch i hawliau dynol.”

Diwedd

Am fwy o wybodaeth i’r wasg, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar 020 3117 0255, y tu allan i oriau gwaith 07767 272 818. Ar gyfer ymholiadau cyffredinol cysylltwch â llinell gymorth genedlaethol y Comisiwn: Cymru 0845 604 8810, Yr Alban 0845 604 5510 a Lloegr 0845 604 6610.

Nodiadau i olygyddion

Gellir lawr lwytho’r adroddiad ymchwil “Race disproportionality in stops and searches under s.60 of the Criminal Justice and Public Order Act 1994” o wefan y Comisiwn yn:

http://www.equalityhumanrights.com/key-projects/race-in-britain/stop-and-think/

Rhydd y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 y pŵer i’r heddlu i stopio a chwilio unrhyw gerddwr neu gerbyd am arfau ymosodol neu offerynnau peryglus o fewn cyfnod amser ac ardal benodol. Gofynnodd y Comisiwn i bob un o’r 40 o heddluoedd yn Lloegr i ddatgelu’r seiliau am roi caniatâd i ddefnyddio’r pŵer hwn rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2011. Gofynnodd am ddata ar nifer yr awdurdodiadau a wnaed, yr amser, lleoliad a’r rhesymeg y tu ôl i’r awdurdodiadau hynny, nifer yr achosion stopio a chwilio a’u heffeithiolrwydd yn nhermau’r arfau a ddarganfuwyd  a’r nifer a arestiwyd. Mae hefyd, yn dadansoddi’r data a gyhoeddir gan y Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff statudol a sefydlwyd dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2006, a fabwysiadodd cyfrifoldebau’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r eiriolwr annibynnol dros gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain. Ei nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, cryfhau cysylltiadau da rhwng pobl, a hyrwyddo a diogelu hawliau dynol.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorfodi deddfwriaeth gydraddoldeb ar oedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol  ac yn annog  cydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Rhydd hefyd, gyngor a chyfarwyddyd i fusnesau, y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, ac i unigolion.