Cefnogaethau

Cefnogaeth gweinidogion o 'Hidden in plain sight'

Meddai Maria Miller, AS, Gweinidog dros Bobl Anabl:

Maria Miller MP'Nid yw aflonyddu ar sail anabledd yn dderbyniol ac nid oes rhan iddo mewn cymdeithas wareiddiedig. Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i wneud fwy i, newid ymagweddau negyddol, atal aflonyddu ar sail anabledd a throseddau casineb rhag digwydd a diogelu’r rheiny a dargedir.'

'Mae’r Llywodraeth yn gweithio gyda phobl anabl a’u sefydliadau i wella cofnodi troseddau casineb ac adrodd amdanynt.  Yn awr, mae cynlluniau fel True Vision yn caniatau i bobl adrodd ar- lein am droseddau casineb, heb orfod mynd yn uniongyrchol at yr heddlu. Am y tro cyntaf, rydym yn cyhoeddi ystadegau canolog ynglŷn â throseddau casineb.'

'Mae’r CCHD yn amlinellu nifer o argymhellion manwl y byddwn yn eu hystyried yn ofalus ac yn ymateb iddynt, yn ei dro.'


 

Meddai Margaret Curran, AS, Gweinidog dros Bobl Anabl i’r Wrthblaid:


'Margaret-Curran-MP-webMae’r adroddiad hwn yn amlygu’r raddfa annerbyniol o aflonyddu a thrais y mae pobl anabl yn ei wynebu’n ddyddiol yn y wlad hon; mae’n alwad agor llygaid i gymdeithas – ac i wleidyddion – y bod rhaid inni fod yn ddigyfaddawd  yn ein penderfyniad i weld arwyddion effaith cam-drin a gweithredu arnynt yn gyflym i’w ddileu.'

'Dim ond trwy gymryd yr amser i ddeall a dysgu o brofiadau pobl anabl y gallwn weithio gyda’n gilydd i greu cymdeithas fwy cydradd, gofalgar a pharchus. Mae’r adroddiad hwn gan y Comisiwn yn ymyriad amhrisiadwy o ran cael gafael â’r her honno.'

 

back to top