Mae nifer o ffyrdd y gallwch gysylltu â ni yng Nghymru, amlinellir y rhain isod.
3ydd Llawr, 3 Sgwâr Callaghan, Caerdydd , CF10 5BT
Ffôn 02920 447710 (galwadau heb fod i’r llinell gymorth yn unig)
Ffôn testun 029 20447713
Ffacs 02920 447712
e bostio wales@equalityhumanrights.com
Ymwelwyr yn cyrraedd ar drên:
Ar ôl disgyn o’r platfform yng Nghaerdydd Canolog drwy’r grisiau neu lifft, cymerwch yr allanfa gefn o’r orsaf drwy ddilyn yr arwyddion am ‘Heb dalu’ a’r Maes Parcio. Swyddfa’r CCHD yw’r adeilad 6 llawr gwyn a llwyd yn union o’ch blaen wrth i chi ddod allan o’r allanfa gefn.
Wrth gyrraedd y swyddfa mae angen i chi arwyddo wrth y ddesg flaen cyn gwneud eich ffordd i’r trydydd llawr.
Ymwelwyr yn cyrraedd mewn awyren:
Lleolir Maes awyr Caerdydd (Y Rhws) tua 15 km i Dde Orllewin canol y ddinas. Wrth gyrraedd y maes awyr gall ymwelwyr deithio i ganol y ddinas mewn tacsi, ar drên neu fws.
O’r maes awyr mewn Tacsi : ‘Checker Cars’ yw’r gweithredwr swyddogol i’r maes awyr. Lleolir y tacsis yn union y tu allan i ‘arrivals’ a gellir eu bwcio o flaen llaw drwy e bostio cardiff@checkercars.com neu ffonio +44 (0)1446 711747. Gadewch o leiaf 30munud + £25 am y daith.
O’r maes awyr ar Drên: Mae bws gwennol yn rhad ac am ddim i orsaf drên y Rhws, a leolir tua milltir o’r maes awyr. Mae trenau i Gaerdydd yn gadael ar 6 & 12 munud wedi’r awr. Mae’r daith tua 30 munud o hyd ac mae tocyn sengl yn costio’n llai na £5. www.arrivatrainswales.co.uk
O’r maes awyr ar Fws: Mae gwasanaeth ‘X91 Express’ yn rhedeg rhwng y maes awyr a Gorsaf Caerdydd Canolog bob awr Llun i Sadwrn (yn y dydd) a phob dwy awr ar y Sul a Gwyliau Banc (yn y dydd yn unig). Mae tocyn sengl yn costio’n llai na £5.
Ymwelwyr yn cyrraedd mewn car:
Y brif ffordd i Gaerdydd yw’r M4.
Maes Parcio:
Mae un lle parcio hygyrch ar gael yn Sgwâr Callaghan ar gyfer ymwelwyr ond mae rhaid bwcio hwn o flaen llaw gyda Gemma Stubbs ar 02920 447710. I yrwyr heb anabledd, maes parcio’r orsaf yw’r un agosaf i’r swyddfa ac mae’n costio £7.50 y dydd.
Swyddfa Gogledd Cymru, Canolfan Lafan, 2 Glanrafon, Bangor Gwynedd, LL57 1LH
Ffôn 01248 360582 (galwadau heb fod i’r llinell gymorth yn unig)
Ffôn testun 01248 360583
Ffacs 01248 360584
Os ydych yn gweithio i’r cyfryngau ac yn dymuno siarad â’n swyddfa’r wasg, galwch 02920 447710 os gwelwch yn dda.