Gwnaeth ein hymchwil ‘Pwy ydych chi’n ei weld? Byw gyda’n gilydd yng Nghymru’ ganfod bod 19% o boblogaeth Cymru’n credu mai’r ffordd orau o ymdrin â cham-drin domestig yw ei ystyried fel mater preifat. Fodd bynnag, nid mater preifat yw cam-drin domestig –eich busnes chi yw cam-drin domestig.
Mae ‘Eich busnes chi’ yn sôn am hanes un a ddaeth drwy gam-drin domestig yn llwyddiannus. Dengys y profiad bywyd go iawn hwn mor hanfodol yw cael polisi cam-drin domestig i alluogi’r sawl sy’n dioddef cam-drin domestig i gael mynediad diogel at wasanaethau a gwybodaeth a gall yn y pen draw achub eu bywydau.
Pam mae angen gweithredu yn y gweithle?
Mae cam-drin domestig yn costio dros £1.9 biliwn y flwyddyn i fusnesau yn y DU ar hyn o bryd.
Yn y DU, mewn unrhyw un flwyddyn, mae mwy na 20% o fenywod cyflogedig yn absennol o’u gwaith oherwydd cam-drin domestig, ac mae 2% yn colli eu swyddi o ganlyniad uniongyrchol i’r camdriniaeth.
Targedir 75% o fenywod sy’n dioddef cam-drin domestig yn y gwaith – o alwadau aflonyddu ar y ffôn a chymheiriaid ymosodol yn cyrraedd y swyddfa heb rybudd, i ymosodiadau corfforol.
Beth gall gyflogwyr wneud?
Rydym yn annog cyflogwyr i weithredu fel y gall staff medrus a phrofiadol gadw eu swyddi a theimlo’n ddiogel yn y gweithle a’u bod yn cael eu cefnogi yno. Rydym wedi croesawu’r cyfle i weithio gydag amryw o bartneriaid i ddatblygu amrywiaeth o gymorth ymarferol i’w ddefnyddio gan gyflogwyr a staff fel ei gilydd: