Mae’r Ddeddf ddiwygiedig yn berthnasol i bob ysgol a choleg a gynhelir gan awdurdodau addysg lleol neu awdurdodau addysg (yn yr Alban), ysgolion a cholegau annibynnol (sy’n codi ffioedd), colegau addysg bellach, ysgolion arbennig, darparwyr addysg y blynyddoedd cynnar, prifysgolion, awdurdodau addysg lleol a llywodraethwyr ysgolion a cholegau a byrddau ysgolion (yn yr Alban). Mae’r Ddeddf ddiwygiedig yn cynnwys trefniadau derbyn disgyblion, sut mae disgybl neu fyfyriwr yn cael ei drin, a materion eithrio, yn ogystal â phenderfyniadau awdurdodau addysg lleol ac awdurdodau addysg (yn yr Alban), fel penderfyniadau ar anghenion addysgol arbennig.