Cysylltir aflonyddwch yn y gwaith weithiau â bwlio. Gall ymddygiad bwlio fod yn aflonyddwch mewn deddf cydraddoldeb neu mae’n bosibl na fydd yn aflonyddwch.
Er mwyn i ymddygiad gyfrif fel aflonyddwch mewn deddf cydraddoldeb, mae’n rhaid iddo fod yn un o dri math:
Math 1: Ymddygiad digroeso’n ymwneud â ’r nodweddion gwarchodedig a restrir isod
Math 2: Aflonyddwch rhywiol
Math 3: Triniaeth llai ffafriol oherwydd ymostwng i neu wrthod aflonyddwch ailbennu rhyw neu genedl flaenorol.
Y math cyntaf o aflonyddwch yw ymddygiad digroeso’n ymwneud ag oed, anabledd, hil, rhyw, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred neu gyfeiriadedd rhywiol, er mwyn:
Gall ‘ymddygiad digroeso’ gynnwys unrhyw fath o ymddygiad gan gynnwys geiriau llafar neu ysgrifenedig neu ddifrïo, delweddu, graffiti, ystumiau corfforol, mynegiannau ar y wyneb, dynwared, cellwair, triciau, gweithrediadau sy’n effeithio ar amgylchoedd person neu ymddygiad corfforol arall.
Mae 'perthnasol i’ nodwedd warchodedig yn cynnwys sefyllfaoedd:
Er enghraifft:
Yn ystod sesiwn hyfforddi lle’r oedd gweithwyr gwrywaidd a benywaidd, roedd hyfforddwr gwrywaidd yn cyfeirio nifer o sylwadau o natur rywiol at y grŵp yn gyffredinol. Mae gweithiwr benywaidd yn teimlo bod y sylwadau’n ymosodol a difrïol iddi hi fel merch. Gall ddwyn achos o aflonyddwch er nad oedd y sylwadau wedi’u cyfeirio’n uniongyrchol ati hi.
lle nad oedd gan y gweithiwr sydd wedi’i haflonyddu’r nodwedd warchodedig berthnasol.
Er enghraifft:
Er enghraifft:
Mae gweithiwr yn dioddef gan herian homoffobig a galw enwau, er bod ei gydweithwyr yn gwybod nad yw’n hoyw. Oherwydd bod y math o ddifrïo’n ymwneud â nodwedd warchodedig, h.y. cyfeiriadedd rhywiol, gallai hyn fod yn aflonyddwch perthnasol i gyfeiriadedd rhywiol.
Nid oes yn rhaid i’r ymddygiad digroeso fod wedi’i dargedu at y person sy’n teimlo ei fod yn troseddu yn erbyn ei urddas neu’n creu amgylchedd brawychus, gelyniaethus, diraddiol neu ymosodol.
Er enghraifft:
Mae gweithiwr gwyn mewn swyddfa lle mae’r mwyafrif o’r gweithwyr eraill hefyd yn wyn, yn teimlo bod sylwadau hiliol parhaus aelod arall o’r staff hefyd yn creu amgylchedd gelyniaethus a brawychus iddyn nhw. Gall hyn fod yn aflonyddwch.
Gall aelodau gwrywaidd o’r staff sy’n edrych ar bornograffi ar gyfrifiaduron y gwaith greu amgylchedd brawychus neu ymosodol i’w cydweithwyr benywaidd. Er nad ydyn nhw’n benodol yn tynnu sylw’r merched at y pornograffi neu’n ei drafod gyda nhw, gall hyn fod yn aflonyddwch.
Gall hefyd fod yn aflonyddu pan fydd yr ymddygiad digroeso’n berthnasol i’r nodwedd warchodedig ond nad yw’n digwydd oherwydd y nodwedd warchodedig.
Er enghraifft:
Mae gweithiwr benywaidd yn cael perthynas gyda’r rheolwr gwrywaidd. O’i gweld gyda chydweithiwr gwrywaidd arall, mae’r rheolwr yn amau ei bod yn cael perthynas arall. O ganlyniad, mae’r rheolwr yn gwneud ei bywyd gwaith yn anodd drwy feirniadu ei gwaith yn gyson mewn dull ymosodol. Nid yw’r ymddygiad oherwydd rhyw'r gweithiwr benywaidd ond oherwydd yr amheuaeth o berthynas arall, sy’n berthnasol i’w rhyw. Gall hyn fod yn aflonyddwch ar sail rhyw.
Yr ail fath o aflonyddwch yw aflonyddwch rhywiol.
Digwydd aflonyddwch rhywiol pan fydd person yn gwneud rhywbeth o natur rywiol (a all fod yn eiriol, aneiriol neu gorfforol) i bwrpas:
Gall ‘o natur rywiol’ gynnwys awgrymiadau rhywiol, cyffwrdd, mathau o ymosodiadau rhywiol, cellwair rhywiol, dangos lluniau neu ddyluniadau pornograffig neu anfon negeseuon e-bost gyda deunydd o natur rywiol ddigroeso.
Y trydydd math o aflonyddwch yw lle mae gweithiwr yn cael ei drin yn wael oherwydd ei fod naill ai’n ymostwng i neu’n gwrthod aflonyddwch rhywiol neu aflonyddwch sy’n berthnasol i ailbennu rhyw neu genedl.
Er enghraifft:
Mae siopwr yn gwneud awgrymiadau amheus i un o’i gynorthwywyr yn y siop. Mae hi’n gwrthod ei awgrymiadau amheus ac yna caiff ei gwrthod ar gyfer dyrchafiad y byddai wedi’i gael petai wedi derbyn awgrymiadau amheus ei phennaeth. Mae hyn yn aflonyddwch.
Mae’r math hwn o aflonyddwch hefyd yn gymwys pan fydd y person sy’n trin y gweithiwr yn wael yn rhywun gwahanol i’r person sy’n gwneud yr aflonyddu gwreiddiol.
Er enghraifft:
Mae rheolwr prosiect o dras Indiaidd wedi byw yn Lloegr drwy gydol ei hoes. Ar ôl iddi roi rhybudd ei bod yn bwriadu ymddiswyddo o’i swydd yn y cwmni, dywed y Cyfarwyddwr: ‘Mae’n siŵr y gwelwn ein gilydd yn y dyfodol, heblaw y byddan nhw’n trefnu eich priodi yn yr India’. Nid oedd angen y sylw hwn ac mae’n ymddygiad sy’n berthnasol i darddiad ethnig y gweithiwr sydd, er nad oedd yn fwriadol, yn teimlo iddo droseddu yn erbyn ei hurddas. Mae’n rhesymol i’r gweithiwr gymryd yr hyn a ddywedwyd fel barn stereoteip o ferched Indiaidd a theimlo iddi gael ei thramgwyddo.
Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i ferch ei gwneud hi’n glir bod ymddygiad eithriadol yn ddigroeso cyn iddo gael ei ystyried yn aflonyddwch.
Er enghraifft:
Mae cydweithiwr yn gofyn sawl gwaith i ferch fynd am ddiod ar ôl gwaith. Mae’n gwneud esgus gan ddweud nad yw’n gyfleus. Y trydydd tro, dywedodd yn blaen nad oedd am fynd am ddiod gydag ef o gwbl. Mae ei chydweithiwr yn dal i ofyn iddi. Gall ei wahoddiadau cyson ar ôl iddi ddweud yn glir nad yw am fynd gydag ef, fod yn aflonyddu. Y troeon cyntaf, cyn iddi ei wneud yn glir, ni fyddai ei wahoddiadau’n debygol o gael eu hystyried fel aflonyddwch.
Er enghraifft:
Caiff cyflogai ag anabledd dysgu ei bryfocio gan gydweithwyr sy’n dweud wrtho am fynd i’r storfa i ofyn am eitemau nad ydynt ar gael, fel ‘pwysau hir’ gan eu bod yn meddwl y bydd yn eu credu. Mae’r gweithiwr yn teimlo bod hyn yn ddiraddiol felly mae’n debygol o ddwyn achos o aflonyddwch er nad oedd y cydweithwyr efallai’n bwriadu creu amgylchedd gelyniaethus iddo na thanseilio ei urddas.
Fel cyflogwr, gellir eich dal yn gyfrifol am aflonyddu ar weithiwr gan rywun nad sy’n gweithio i chi, fel cwsmer. Weithiau, gelwir hyn yn ‘aflonyddwch trydydd parti’.
Byddwch chi’n gyfreithiol gyfrifol os byddwch chi’n gwybod bod rhywun nad yw’n gweithio i chi wedi aflonyddu ar eich gweithiwr ddwywaith yn flaenorol ond nad ydych wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r gweithiwr rhag aflonyddwch pellach.
Nid oes yn rhaid i’r person fod yr un un sy’n aflonyddu ar y gweithiwr bob tro.
Er enghraifft:
Mae cyflogwr yn ymwybodol bod gweithiwr bar benywaidd wedi dioddef gan aflonyddwch rhywiol ar ddau achlysur ar wahân gan ddau gwsmer gwahanol. Ar ôl i rywun ddweud wrth y cyflogwr neu iddo ddarganfod am y ddau achlysur cyntaf, bydd yn gyfrifol am y trydydd achos o aflonyddwch tuag at yr un gweithiwr bar, os na fydd wedi cymryd camau ymarferol i rwystro aflonyddwch pellach. Bydd hyn yn wir hyd yn oed os mai cwsmer arall heb unrhyw gysylltiad â’r lleill fydd wedi cyflawni’r trydydd achos o aflonyddwch.
Peidiwch ag aros i’ch gweithiwr gyflwyno dau gŵyn am aflonyddwch. Deliwch gyda phob achos o aflonyddwch wrth iddo ddigwydd. Camau y gallwch eu cymryd:
Gallwch hefyd gael eich dal yn gyfreithiol gyfrifol am aflonyddwch gan bobl sy’n gweithio i chi. Mae hyn yn gymwys pa un a ydy’r person sy’n gweithio i chi’n aflonyddu un arall o’ch gweithwyr neu’n aflonyddu ar rywun sy’n gwsmer, yn gleient neu’n ddefnyddiwr gwasanaeth a all hefyd ddwyn achos yn eich erbyn.
Felly, mae’n bwysig eich bod yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod eich gweithwyr yn gwybod na fydd aflonyddwch yn cael ei oddef, oherwydd yr effaith y mae’n ei gael ar y person yr aflonyddwyd arno ond hefyd oherwydd yr effaith y gallai ei gael ar eich sefydliad.
Os bydd y person sy’n aflonyddu ar rywun arall yn un o’ch cyflogai, dywed deddf cydraddoldeb y byddwch chi’n cael eich dal yn gyfreithiol gyfrifol heblaw eich bod yn gallu dangos i chi gymryd pob cam rhesymol i’w atal rhag aflonyddu ar rywun.
Os bydd y person sy’n aflonyddu ar rywun arall yn asiant i chi (rhywun sy’n gwneud rhywbeth i chi ond nad oes gennych unrhyw gontract gwaith gydag ef), byddwch chi’n cael eich dal yn gyfreithiol gyfrifol os ydyn nhw’n gweithredu o dan eich awdurdod chi.
Nid oes unrhyw wahaniaeth a ydych chi’n gwybod neu’n cymeradwyo gweithrediadau gwahaniaethol eich cyflogai neu eich asiantau, gallwch ddal i gael eich cyfrif yn gyfrifol.
Nid yw deddf cydraddoldeb yn nodi’n union beth yw ‘camau rhesymol’ ond gall y camau hyn helpu:
Ceisiwch sicrhau nad yw gweithwyr nad ydynt yn rhan o’r gwyn yn darganfod yr hyn sydd wedi digwydd.
Rhagor o wybodaeth