Pan fydd gweithiwr yn mynd yn berson anabl

Os bydd rhywun sy’n gweithio i chi’n mynd yn berson anabl, gall hyn olygu gwneud newidiadau i’r modd y mae’n cyflawni ei swydd.

Yn gyntaf, defnyddiwch y canllaw craidd i sicrhau eich bod yn gwybod yr hyn y mae deddf cydraddoldeb yn ei ddweud sy’n rhaid i chi ei wneud fel cyflogwr.

Yn y sefyllfa hon, rhaid i chi feddwl a oes rhai addasiadau rhesymol y mae’n rhaid i chi eu gwneud, hyd y mae’n rhesymol, er mwyn i’r person anabl gael yr un mynediad i bob peth sy’n ymwneud â chyflawni ei swydd fel gweithiwr nad yw’n anabl.

Mae dyletswydd gadarnhaol a phroactif arnoch i gymryd camau i symud, i leihau neu i atal y rhwystrau y mae gweithiwr anabl yn eu hwynebu.

Weithiau, gall hyn olygu gwneud addasiadau i’r modd rydych chi’n gwneud pethau neu i’ch eiddo. Gall olygu rhoi cyfarpar ychwanegol neu gyfarpar wedi’i addasu i’r gweithiwr.

Dylech hefyd adolygu unrhyw addasiadau presennol i berson anabl os bydd effeithiau ei gyflwr yn newid neu os bydd yn newid swydd.

Bydd o fudd i’ch sefydliad i gadw’r gweithiwr os gellir gwneud addasiadau rhesymol i sicrhau bod hyn yn digwydd. Byddwch chi’n gallu cadw ei wybodaeth a’i sgiliau er budd eich sefydliad.

Hefyd, bydd cost cadw’r gweithiwr yn aml yn llai na chost recriwtio a hyfforddi aelod newydd o’r staff.

Bydd nifer o ffactorau i’w hystyried wrth benderfynu pa addasiadau i’w gwneud a byddan nhw’n dibynnu ar amgylchiadau’r unigolyn. Bydd gwahanol bobl angen newidiadau gwahanol hyd yn oed os byddan nhw’n ymddangos fel petai ganddyn nhw nam tebyg.

Rhaid i chi wneud addasiadau dim ond pan fyddwch chi’n ymwybodol – neu y dylech yn rhesymol fod yn ymwybodol – bod gan gyflogai anabledd.

Byddai’n ddoeth i chi drafod yr addasiadau gyda’r person anabl. Fel arall, mae’n bosibl na fydd y newidiadau’n effeithlon. Hefyd, mae’n bosibl y byddwch chi angen cael cyngor arbenigol. Gelwir y broses hon yn ‘Asesu Cadw Cyflogaeth’.

Mae llawer mwy o wybodaeth am wneud addasiadau rhesymol i symud rhwystrau i bobl anabl.
 

Rhagor o wybodaeth

back to top