Mae’r ddyletswydd yn cynnwys tri gofyniad sy’n berthnasol mewn sefyllfaoedd lle byddai person anabl fel arall o dan anfantais sylweddol o’i gymharu â phobl nad ydynt yn anabl.
Er enghraifft:
Mae gan gyflogwr bolisi fod lleoedd dynodedig mewn meysydd parcio yn cael eu defnyddio gan weithwyr presennol ac nid gan ymwelwyr. Rhoddir lle parcio dynodedig i ymgeisydd am swydd sydd â nam symudedd ac sydd angen parcio’n agos iawn at leoliad y cyfweliad, ar gyfer y cyfweliad. Mae hyn yn debygol o fod yn addasiad rhesymol i bolisi’r cyflogwr ar barcio ceir .
Er enghraifft:
Mae drysau gwydr clir ar ben coridor mewn gweithle arbennig yn creu perygl i ymgeisydd am swydd neu weithiwr â nam ar y golwg. Mae rhoi arwyddion y gellir eu gludo a dangosyddion eraill ar y drysau fel eu bod yn haws eu gweld yn debygol o fod yn addasiad rhesymol i’r cyflogwr ei wneud.
Er enghraifft:
Mae cyflogwr yn darparu meddalwedd arbenigol ar gyfer aelod o staff sy’n defnyddio cyfrifiadur yn ei swydd ond sy wedi dioddef nam ar ei olwg yn ddiweddar.
Edrychir ar bob un o’r gofynion hyn yn fwy manwl yn ddiweddarach yn y rhan hon o’r canllaw.
Rhagor o wybodaeth