Blaenoriaeth strategol 3

Adeiladu cymdeithas heb ragfarn, hyrwyddo cysylltiadau da a meithrin diwylliant cydraddoldeb a hawliau dynol dirgrynol

Rhesymwaith

  • Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod gwahaniaethu strwythurol ac anfantais yn cael eu gwaethygu gan brosesau cynnil sy’n cynnwys ystrydebu negyddol, gelyniaeth a chasineb tuag at grwpiau arbennig, ac agweddau niweidiol sy wedi hen galedu sydd eu hunain yn achosi ymddygiadau andwyol. Ein huchelgais dros y tymor hir yw newid agwedd cenhedlaeth. Byddwn ni’n gweithio tuag at hyn drwy ymchwil, trwy gael cynghrair gyda chyrff anllywodraethol, ac amrywiaeth o weithgareddau a wneir y tu hwnt i’r Comisiwn. Byddwn hefyd yn adeiladu’n cysylltiadau â sefydliadau diwylliannol i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol.
  • Mae tystiolaeth o arwahanu dwysach a diffyg dealltwriaeth ar y cyd, o ddiffyg goddefgarwch a pharch at ddiwylliannau amrywiol, credoau a ffyrdd o fyw, yn ogystal â synnwyr o anallu ac o fod ar y cyrion mewn rhai cymunedau. 
  • Bydd y Comisiwn yn ymdrechu i leihau’r lefelau cyffredinol o ragfarn mewn cymdeithas, gan adeiladu ar gynnydd mewn rhai meysydd. Er enghraifft, mae hiliaeth yn ymddangos yn llai cyffredin ymysg y genhedlaeth iau ym Mhrydain, er nad yw’n absennol o bell ffordd. Hefyd mae heriau enbyd fel mynd i’r afael â chasineb a thrais a anelwyd at bobl anabl, lesbiaid, cymunedau deurywiol a hoyw, a phobl drawsrywiol.
  • Mae tystiolaeth gadarn bod gwahaniaethu’n cael ei fwydo gan ragfarn, arwahanu a diffyg ymwybyddiaeth. Heblaw i ni fynd i’r afael â gwreiddiau’r achosion o wahaniaethu anghyfreithlon, bydd y Comisiwn yn cael yr alwad am ymyriadau adolygol i ‘unioni camau yn y gorffennol’ yn rhywbeth na ellir mo’i gynnal. Ein dull strategol ni yw mynd i’r afael ag achosion systemig ac effeithiau gwahaniaethu. 
  • Mae gan y Comisiwn ddyletswydd statudol i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn mynd i’r afael yn ddigonol â’u dyletswyddau cysylltiadau da, eto mae anhrefn sylweddol ac ansicrwydd ar hyn o bryd oddeutu’r fframwaith deddfwriaethol ar gydlyniad cymunedol. 
  • Yn aml bydd y Comisiwn yn gweithio trwy sefydliadau cyfryngol fel y cyrff cyhoeddus strategol sy’n gosod polisïau ar gyfer ysgolion a phrifysgolion. Hwyrach bod gan y cyrff hyn fewnwelediad gwell i’r rhwystrau a’r cyfleoedd sydd ar lawr gwlad. Hefyd byddwn yn datblygu sianelau uniongyrchol y byddwn yn cyfathrebu â’r cyhoedd trwyddynt.

back to top