Blaenoriaeth strategol 4
Hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o hawliau a dyletswyddau a darparu cyngor ac arweiniad amserol a chywir i unigolion a chyflogwyr
Rhesymwaith
- Mae rhaid i’r Comisiwn sicrhau bod pob sefydliad yn gwneud beth sy’n ofynnol ohono yn ôl y gyfraith, a bod ei ddyletswyddau’n cael eu cyflawni o ran deddfwriaeth cydraddoldeb a’r Ddeddf Hawliau Dynol. Y Comisiwn yw ceidwad deddfiadau hawliau dynol a chydraddoldeb Prydain - ynghyd â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn yr Alban - a’n rôl ni yw darparu arweiniad awdurdodol, hygyrch ac amserol, tra ysgogi cyfnewid a datblygu arfer da ym meysydd fel cymryd rhan ac ymgynghori.
- Ar yr un pryd, mae angen i ni weithio gyda sefydliadau a chymunedau a pheidio â’n gosod ein hunain yn eu herbyn. Rydym yn cydnabod bod diwylliant sefydliadau sector preifat a chyhoeddus yn fythol newid. Wrth i sefydliadau ddod yn fwy hyblyg ac addasol, bydd angen dull gwahanol arnom i gydraddoldeb ac amrywiaeth.
- Dull y Comisiwn fydd gwobrwyo rhagoriaeth ymysg ‘arweinyddion’ cydraddoldeb, cymell y rhai sy’n ‘fodlon ond yn ofnus’ i wella, a gweithredu mewn ffordd briodol a chymesur yn erbyn ‘diogynnod’ sy’n torri’u dyletswyddau statudol. Mae’n bwysig i’r Comisiwn ddarparu diweddariadau hygyrch rheolaidd ar ddatblygiadau deddfwriaethol, cyfraith achos a gweithredu gorfodaeth trwy sianeli amrywiol fel y gellir eu rhoi ar waith yn union, yn enwedig ymhlith Mentrau Bychan a Chanolig o faint. Bydd hyn yn cynnwys corff arwyddocaol o ganllaw statudol ac anstatudol ar ran y Ddeddf Cydraddoldeb newydd.
- Byddwn yn gweithio gydag eraill gan gynnwys partneriaid allweddol fel ACAS, yr undebau llafur, a sefydliadau busnes fel Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, a’r cymdeithasau masnach amrywiol sy’n cwmpasu’r galwedigaethau, cynhyrchu a diwydiannau gwasanaeth. Mae rhaid i bob sefydliad sector preifat a chyhoeddus weithredu’u dyletswyddau o dan y gyfraith.
- Mae hawl yr unigolyn i iawndal yn aros yn bennaf peth. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn yn credu y darperir cyngor ac arweiniad orau yn aml trwy gyfryngwyr fel Cyngor ar Bopeth a chanolfannau cyfraith gymunedol ac mai’n swyddogaeth yw darparu arolygiaeth effeithiol i sicrhau isadeiledd digonol o gyngor a mynediad at gyfiawnder ar draws Prydain.
back to top
-
Print
-
Share
-
RSS
- There are no feeds for this page.