Rhagair gan y Cadeirydd
Roedd blwyddyn ariannol 2009/10 yn arwyddocaol i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (y Comisiwn). Cafodd Deddf Cydraddoldeb 2010 gymeradwyaeth seneddol gyda chefnogaeth consensws eang a chyflawnodd y Comisiwn ei hun raglenni gwaith pwysig.
Ymhlith y rhain roedd adroddiad o'i ymchwiliad i drin gweithwyr yn y diwydiannau prosesu cig a dofednod a lansio dau ymchwiliad newydd ynghylch aflonyddu ar bobl anabl a masnachu mewn pobl yn yr Alban. Datgelodd yr ymchwiliad i brosesu cig dystiolaeth sylweddol ynghylch achosion o dorri hawliau dynol mewn perthynas ag amodau gwaith yn y sector, ac amlygodd materion perthynas dda yn y gweithle yn deillio o arferion cyflogaeth cyffredin.
Cynhaliwyd ymchwiliadau i wahaniaethu ar sail hil yn y diwydiant adeiladu a materion ynghylch cyflogau gwahanol rhwng y rhywiau yn y sector gwasanaethau ariannol gennym, ac arweiniodd y ddau at raglenni gwaith dilynol gyda sefydliadau a oedd yn cynrychioli cyflogwyr ym mhob sector.
Cafwyd cynnydd hefyd o ran strategaeth gyfreithiol y Comisiwn. Yn 2009/10 gwnaethom ymyrryd neu gefnogi tua 50 o achosion hawliau dynol a gwahaniaethu, yn cynnwys achos pwysig Allen. Gwnaeth hyn bwysleisio'r angen i fanciau a darparwyr gwasanaethau eraill ddarparu addasiadau rhesymol i gwsmeriaid anabl. Gwnaeth y Comisiwn gymryd camau yn erbyn sefydliadau eraill a fu'n euog o dorri'r gyfraith, yn cynnwys Plaid Genedlaethol Prydain. Mae mwy o fanylion am gyflawniadau'r flwyddyn i'w gweld yn Atodiad 3 o'r adroddiad hwn.
Fodd bynnag, cafwyd heriau sylweddol yn y gwaith o reoli a llywodraethu'r sefydliad ac rydym wedi mynd i'r afael â hwy drwy gydol y flwyddyn. Mae'r rhesymau y tu ôl i amodau ein set lawn gyntaf o gyfrifon wedi cael eu harchwilio'n drylwyr ac mae'r uwch dim rheoli wedi rhoi prosesau caffael a rheolaeth ariannol newydd ar waith i fynd i'r afael â'r materion hyn.
Mae Bwrdd y Comisiwn wedi comisiynu cyfres o adolygiadau ac wedi rhoi tîm gweithredol newydd ar waith. Wrth adnabod achosion gwaelodol yr amodau, rydym wedi datblygu darlun manwl iawn o'r cytundebau a thrafodion a fu yn ystod y flwyddyn. Yn ystod yr amser hwn, daeth yn amlwg nad oedd proses briodol yn cael ei dilyn mewn mwy nag un ardal nag y feddyliwyd yn wreiddiol. Yn sgil hynny bu'n rhaid i'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol amodi ein cyfrifon am y trydydd tro. Bydd y Prif Weithredwr dros dro yn mynd i'r afael â'r materion hyn yn fanylach yn y datganiad am reolaeth fewnol ac maent hefyd yn cael eu trafod yn adroddiad y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol.
Rwyf i a'r Bwrdd yn edifar iawn am y ffaith bod y cyfrifon wedi cael eu hamodi am y trydydd tro. Rydym yn parhau i fod yn gwbl gefnogol o waith yr uwch dîm rheoli, o ran rhoi prosesau newydd ar waith, ac o'u hymdrechion helaeth i ddatgelu cymaint o fanylion â phosibl ynghylch y methiannau yn y gweithdrefnau a fu ers i'r Comisiwn gael ei sefydlu, yr oedd rhai ohonynt yn bodoli cyn ei sefydlu.
Yn wir, cafodd rhai o'r cytundebau, ond nid pob un o bell ffordd, a gaffaelwyd yn anghywir eu rhoi ar waith yn ystod y cyfnod pontio cyn i'r Comisiwn agor ei ddrysau; yn ystod y cyfnod hwn, roedd y tîm pontio a noddwyd gan y llywodraeth yn gyfrifol am y materion hyn. Fel y nododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ei adroddiad ar ein cyfrifon 2006/08, roedd nifer o wallau yn y ffordd yr aeth y llywodraeth ati i sefydlu'r Comisiwn.
Yn ogystal â chamau gweithredu'r tîm rheoli, mae bwrdd newydd wedi cryfhau ei drefniadau llywodraethu ei hun er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio'n fwy effeithiol gan ddwyn y weithrediaeth i gyfrif yn briodol. Mae Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg yn rhoi sicrwydd cyffredinol i'r Bwrdd ynghylch rheolaeth ariannol y Comisiwn ac mae gwelliannau sylweddol wedi cael eu gwneud i sicrhau adroddiadau ariannol o safon.
Crëwyd dau bwyllgor newydd i oruchwylio'r Bwrdd: mae un yn craffu ar ddefnydd y Comisiwn o adnoddau ac mae'r llall yn craffu ar ei weithgareddau rheoleiddiol a chyfreithiol.
Mae cadeiryddion yr holl bwyllgorau hyn yn adrodd yn ôl ym mhob cyfarfod Bwrdd am eu gwaith ac yn nodi unrhyw feysydd o gonsyrn y mae angen eu tynnu at sylw'r Bwrdd.
Rwyf yn hyderus ein bod wedi cymryd y camau priodol ar lefel y Bwrdd a'r lefel rheoli i ddelio â'r problemau rheolaeth a gweithdrefnol a fu. Rydym yn parhau i archwilio'r rhain er mwyn i ni ddechrau â llechen lân ar gyfer y dyfodol. Mae'r dystiolaeth o gydymffurfiad â'r gweithdrefnau newydd y mae'r uwch dîm rheoli wedi'u rhoi ar waith yn galonogol. Fodd bynnag, mae materion hanesyddol sylweddol yn dal i fodoli a rhaid i ni barhau i fynd i'r afael â hwy.
Gan edrych ymlaen, bydd hinsawdd economaidd cyfnewidiol a ddaeth i'r amlwg at ddiwedd y flwyddyn ariannol yn creu heriau newydd ar gyfer cydraddoldeb a hawliau dynol ar gyfer y flwyddyn o'n blaen. Bydd helpu i fynd i'r afael â'r rhain yn flaenoriaeth uchel i'r Comisiwn. Bydd hefyd yn bwysig i'r sefydliad sicrhau bod pasio cyfraith y Ddeddf Cydraddoldeb yn gynnydd diriaethol ar lawr gwlad.
Trevor Phillips OBE
Cadeirydd