Mae’r Comisiwn yn llwyr groesawu’r Mesur Cydraddoldeb. Mae’n cynrychioli cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i resymu a chryfhau deddfwriaeth gydraddoldeb ym Mhrydain, gan ddarparu sylfaen gadarn i gymdeithas decach lle mae gan bawb y cyfle i wireddu’u potensial.
Am 40 o flynyddoedd mae deddfwriaeth gydraddoldeb ym Mhrydain wedi galluogi’r sawl sy’n dioddef camdriniaeth yn y gweithle neu wedi’u hanwybyddu gan wasanaethau cyhoeddus oherwydd rhesymau ar sail gwahaniaethu i geisio am gyfiawnder yn y llysoedd barn. Rydym wedi gwneud cynnydd da wrth fynd i’r afael â’r enghreifftiau mwyaf dybryd o wahaniaethu, gan fydd unigolion a sefydliadau yn awr yn gwybod y gallan nhw gael eu dwyn gerbron llys.
Fodd bynnag, mae anghydraddoldeb ac anfantais affwysol yn parhau. Mae hanner o bobl anabl allan o waith. Mae menyw Bangladeshaidd yn chwe gwaith mwy tebygol o fod yn ddi-waith na menyw wen. Ar ôl ei eni bydd cod post y plentyn bob amser yn rhagfynegydd rhesymol o’i gyfleoedd mewn bywyd fel oedolyn. Mae ein dewisiadau a’n cyfleoedd mewn bywyd yn dal, i raddau helaeth, yn cael eu pennu gan ein gwreiddiau.
Nid cynnyrch malais mo hyn yn unig ar ran naill ai unigolion neu sefydliadau; mae’n rhagfarn systemig. A thra hwyrach y bydd pobl yn ennill buddugoliaethau unigol yma ac acw, bydd cynnydd yn araf ar y gorau ac yn dibynnu ar y rheiny sy’n gwneud ebyrth mawr er mwyn cyflwyno eu hachosion gerbron llys. Y gwir her yw cyflawni newid ymagwedd ar raddfa eang, gan ystyried sut i wella’n systemau a’n gweithdrefnau er mwyn rhoi cyfle teg i bawb. Dyma beth fydd y Mesur Cydraddoldeb yn ei gynnig i ni.
Mae’r Mesur yn gorfodi sefydliadau i ystyried y dystiolaeth ac i archwilio eu prosesau, gan ganfod ffyrdd o gyflawni i bawb, ni waeth beth eu hil, rhyw, anabledd, oed, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rywiol.
Ers 1997, mae deddfwriaeth gydraddoldeb ym Mhrydain wedi datblygu mewn ffordd fel y bo gan bawb lefelau tebyg - er nid yn unfath - o ddiogelwch rhag gwahaniaethu yn y gweithle, ni waeth beth eu hoed, anabledd, ethnigrwydd, rhyw, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred anghrefyddol a chyfeiriadedd rhywiol. Hefyd caiff y rhan fwyaf o bobl eu diogelu rhag gwahaniaethu ar sail y rhain wrth ddefnyddio gwasanaethau, cyfleusterau a nwyddau sector cyhoeddus a phreifat. Mae gan awdurdodau cyhoeddus ddyletswydd i hybu cyfle cyfartal ac i ddileu gwahaniaethu ac aflonyddu ar sail hil, anabledd, rhyw neu ailbennu rhywedd. Mae dyletswyddau ychwanegol i hybu cydraddoldeb ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru, Llywodraeth yr Alban a Chynulliad Llundain Fawr.
Er bod y Comisiwn yn croesawu’r diogelwch mwy eang o ganlyniad cyfuno’r ddeddfwriaeth ddiweddar a’r deddfau llawer hynach ar wahaniaethu ar sail rhyw a hil, mae’r dull datblygu cynyddrannol wedi creu cymhlethdod diangen. Mae 116 o actau seneddol gwahanol, rheoliadau, codau ymarfer a chanllawiau. Mynegir cysyniadau tebyg mewn geiriau gwahanol a gweithredir profion gwahanol i beth yr ystyrid hwyrach yn sefyllfaoedd tebyg. Cynhwysir rhannau arwyddocaol o’r gyfraith mewn penderfyniadau a dehongliadau gan farnwyr a llysoedd yn y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, yn hytrach nag yn y ddeddfwriaeth ei hunan. Yn aml mae’r sefyllfa hwn yn ei gwneud hi’n anodd iawn i gyflogwyr, darparwyr gwasanaeth, unigolion a hyd yn oed cynghorwyr arbenigol, cyfreithwyr, llysoedd a thribiwnlysoedd, i wybod yn union sut i weithredu’r gyfraith mewn amgylchiadau arbennig.
Mae’r Comisiwn felly’n croesawu ymrwymiad y llywodraeth i ddefnyddio’r Mesur Cydraddoldeb i gymhennu anrhefn ein deddfau gwahaniaethu ac i symleiddio’r gyfraith.
Mae hwn yn gyfle pwysig i wneud y gyfraith yn fwy cyson ar draws grwpiau gwahanol. Dylai pob grŵp dderbyn yr un diogelwch ym mhob maes gweithredu heblaw y bod rhesymau da iawn i’w hepgor. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i bawb - cyflogwyr, darparwyr gwasanaeth ac unigolion - i ddeall a gweithredu’r gyfraith.
Wrth gymhenu’r gyfraith a’i gwneud yn fwy cyson, ni ddylai’r Mesur Cydraddoldeb erydu’r hawliau sydd gan bobl ar hyn o bryd. Mae’r Comisiwn yn disgwyl bydd y Ddeddf Cydraddoldeb derfynol yn cyflawni’r ymrwymiad a rhoddwyd ym mhapur ymgynghori Adolygu Cyfraith Gwahaniaethu, A Framework for Fairness (2007):
"Wrth gysoni a symleiddio, rydym ni [y llywodraeth] yn bwriadu cadw’n fras yr un safon o ddiogelwch rhag gwahaniaethu ac sydd gennym yn y deddfau cyfredol, sy’n gyffredinol wedi llwyddo i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb i unigolion heb osod beichiau diangen ar y sawl y mae rhaid iddynt gydymffurfio a hwy. Rydym am i’r gyfraith unioni sefyllfaoedd lle mae annhegwch eglur, ac i fynd i’r afael â phroblemau go iawn, yn ogystal â helpu i hyrwyddo arfer da fel dull i osgoi gwahaniaethu."
Bydd symleiddio’r ddeddfwriaeth gymhleth gyfredol i un ddyletswydd sengl yn ei gwneud hi’n haws i gyrff cyhoeddus i deilwra gwasanaeth cyhoeddus i ateb anghenion eu cymunedau. Dylai’r dull symlach a’r gwelliant yn y broses dargedu wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwariant cyhoeddus.
Mae’r Mesur yn cynrychioli cyfle gwirioneddol i wella’r ffordd yr ydym yn ymdrechu am degwch a chydraddoldeb ym Mhrydain. Mae’n hanfodol yn awr i sicrhau y bydd yn derbyn Cydsyniad Brenhinol cyn i’r senedd gael ei disodli cyn yr etholiad cyffredinol nesaf, y bydd rhaid ei chynnal o leiaf cyn 3 Mehefin 2010.
Mae’r amserlen arfaethedig yn heriol. Oni fydd y Mesur yn derbyn Cydsyniad Brenhinol cyn y disodlir y senedd, hwyrach y bydd yn methu neu bydd dan fygythiad sylweddol. Fel cefnogwyr y Mesur felly, rydym yn bwriadu gwneud ein gorau glas i sicrhau ei lwyddiant. Golyga hynny na fyddwn hwyrach yn cefnogi rhai mesurau er mor ddymunol ydynt os byddai gwneud hynny’n golygu y bydd y Mesur yn rhedeg allan o amser.
Lawr lwytho’r fersiwn lawn o’n Mesur Cydraddoldeb: crynhoad Ail Ddarlleniad yr Arglwyddi (yn Saesneg) (Word)