Asesiad Adran 31 o Drysorlys EM

Rydym yn cyflawni’r Asesiad hwn yn unol â’n grymoedd yn Adran 31 Deddf Cydraddoldeb 2006 a gweithdrefnau a sefydlwyd yn Atodlen 2 Deddf Cydraddoldeb 2006.

Mae gan y Comisiwn ddyletswyddau statudol i weithio tuag at ddileu gwahaniaethu, i hyrwyddo cyfle cyfartal ac i orfodi'r deddfiadau cydraddoldeb. Yn rhan o’r dyletswyddau hyn, mae ganddo’r grym i asesu p’un a yw awdurdodau cyhoeddus wedi cydymffurfio â’u hoblygiadau cyfreithiol dan ddyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus presennol.

Bydd hyn yn Asesiad ffurfiol o i ba raddau mae Trysorlys EM wedi bodloni ei oblygiadau wrth ystyried effaith penderfyniadau sydd wedi eu cynnwys yn yr Arolwg Gwariant ar nodweddion gwarchodedig.

Ni ddylid cymryd cychwyn yr Asesiad hwn o gydymffurfiad Trysorlys EM â Dyletswyddau Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus fel awgrym nad yw wedi gwneud hynny.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cyflwyno dyletswydd newydd i'r sector cyhoeddus fydd yn ymestyn y cwmpas i oed, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, a chrefydd neu gred, ond nid yw mewn grym eto ac a fydd felly ni fydd yn rhan o gwmpas yr asesiad hwn.

Ynglŷn â’r Asesiad

Dan y Dyletswyddau Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus sy'n delio â hil, rhyw (yn cynnwys pobl drawsrywiol) ac anabledd, mae gan Drysorlys EM, fel pob corff cyhoeddus, ddyletswydd gyfreithiol i dalu 'sylw dyledus' i'r angen i ddileu gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn cynnwys ystyriaeth o p'un a oes unrhyw effaith negyddol anghymesur ar y nodweddion gwarchodedig hyn wrth wneud penderfyniadau, yn cynnwys penderfyniadau ynglŷn â'r Adolygiad o Wariant. Ble canfyddir fod penderfyniadau wedi cael effaith negyddol anghymesur ar y grwpiau hyn, rhaid i gyrff cyhoeddus ystyried sut ddylid gweithredu i osgoi, lliniaru neu gyfiawnhau'r effaith honno.

Cefndir i weithredu cydymffurfio

Mae gan y Comisiwn ddyletswydd statudol i orfodi deddfwriaeth cydraddoldeb. I’r perwyl hwn, ac ers cyhoeddi’r bwriad i gyflawni Adolygiad o Wariant ym Mehefin, mae’r Comisiwn wedi bod yn gweithio i sicrhau fod holl adrannau’r Llywodraeth ac awdurdodau cyhoeddus yn ymwybodol o’r oblygiadau dan y Dyletswyddau Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus. Er enghraifft:

  • Ym Mehefin, fe ysgrifennom at holl adrannau’r Llywodraeth, yn cynnwys Trysorlys EM, i ofyn am sicrwydd y byddent yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a chyhoeddi canllaw i’w helpu i wneud hyn.
  • Ers hynny mae’r Comisiwn wedi bod yn rhan o drafodaethau positif gyda Thrysorlys EM, parthed y camau mae wedi cymryd i dalu sylw dyledus yn y penderfyniadau a wnaed yng Nghyllideb argyfwng 2010 a’r Adolygiad o Wariant 2010.
  • Yn Hydref 2010, fe gyhoeddom ganllaw ar gyfer penderfynyddion yn esbonio sut y gellir defnyddio deddfwriaeth cydraddoldeb i wneud penderfyniadau ariannol teg. Hefyd fe lansiom ardal benodol ar wefan y Comisiwn i gefnogi rhanddeiliaid a phenderfynyddion gyda gwybodaeth berthnasol.
  • Mae’r Comisiwn yn cydnabod fod Trysorlys EM wedi sicrhau cynnydd yn hyn o beth. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn eisiau ystyried yn fanwl p’un a yw Trysorlys EM wedi cydymffurfio â’i oblygiadau dan Ddyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Felly, mae’r Comisiwn wedi penderfynu cynnal Asesiad o Drysorlys EM, dan y grymoedd a roddwyd i’r Comisiwn dan Adran 31 Deddf Cydraddoldeb 2006.

Datganiad i’r Wasg

Ar 14 Mai, cyhoeddodd y Comisiwn ei Asesiad ffurfiol o ran Adran 31 o Drysorlys EM, gweler y datganiad i'r wasg.

back to top