Cysylltu â ni

Mae nifer o ffyrdd y gallwch gysylltu â ni yng Nghymru, amlinellir y rhain isod.

Prif swyddfa Cymru

3ydd Llawr, 3 Sgwâr Callaghan, Caerdydd , CF10 5BT
Ffôn 02920 447710 (galwadau heb fod i’r llinell gymorth yn unig)
Ffôn testun 029 20447713
Ffacs 02920 447712
e bostio wales@equalityhumanrights.com

Cyfarwyddiadau i 3 Sgwâr Callaghan 

Ymwelwyr yn cyrraedd ar drên:
Ar ôl disgyn o’r platfform yng Nghaerdydd Canolog drwy’r grisiau neu lifft, cymerwch yr allanfa gefn  o’r orsaf drwy ddilyn yr arwyddion am ‘Heb dalu’ a’r Maes Parcio. Swyddfa’r CCHD yw’r adeilad 6 llawr gwyn a llwyd yn union o’ch blaen wrth i chi ddod allan o’r allanfa gefn.

Wrth gyrraedd y swyddfa mae angen i chi arwyddo wrth y ddesg flaen cyn gwneud eich ffordd i’r trydydd llawr.

Ymwelwyr yn cyrraedd mewn awyren:

Lleolir Maes awyr Caerdydd (Y Rhws) tua 15 km i Dde Orllewin canol y ddinas. Wrth gyrraedd y maes awyr gall ymwelwyr deithio i ganol y ddinas mewn tacsi, ar drên neu fws.

O’r maes awyr mewn Tacsi : ‘Checker Cars’ yw’r gweithredwr swyddogol i’r maes awyr. Lleolir y tacsis yn union y tu allan i ‘arrivals’ a gellir eu bwcio o flaen llaw drwy e bostio cardiff@checkercars.com neu ffonio +44 (0)1446 711747. Gadewch o leiaf 30munud + £25 am y daith. 
 

O’r maes awyr ar Drên: Mae bws gwennol yn rhad ac am ddim i orsaf drên y Rhws, a leolir tua milltir o’r maes awyr. Mae trenau i Gaerdydd yn gadael ar 6 & 12 munud wedi’r awr. Mae’r daith tua 30 munud o hyd ac mae tocyn sengl yn costio’n llai na  £5. www.arrivatrainswales.co.uk
 

O’r maes awyr ar Fws: Mae gwasanaeth ‘X91 Express’ yn rhedeg rhwng y maes awyr a Gorsaf Caerdydd Canolog bob awr Llun i Sadwrn (yn y dydd) a phob dwy awr ar y Sul a Gwyliau Banc (yn y dydd yn unig). Mae tocyn sengl yn costio’n llai na £5.
Ymwelwyr yn cyrraedd mewn car:
Y brif ffordd i Gaerdydd yw’r M4.

  • O’r Dwyrain: Gadewch y M4 yng nghyffordd 32 a chymerwch yr A470 (allanfa gyntaf yn y cylchdro) yr holl ffordd i ganol Caerdydd, dilynwch yr arwyddion i Orsaf Caerdydd Canolog. 
  • O’r Gorllewin: Gadewch y M4 yng nghyffordd 33 wrth gymryd y 3ydd allanfa yn y cylchdro, yr A4232. Arhoswch ar y ffordd gerbydau hon yr holl ffordd i Fae Caerdydd. Ar ôl mynd trwy’r twnelau, cadwch yn y lon ar y llaw chwith a chymerwch yr allanfa cyntaf yn y cylchdro sy’n arwain yn syth i ail gylchdro. Cymerwch yr ail allanfa a dilynwch yr arwyddion i Ganol y Ddinas. Cadwch yn y lon ar y llaw chwith ar hyd ‘Atlantic Wharf’ a chymerwch yr allanfa chwith cyntaf a dilynwch yr arwyddion i’r orsaf drên. Ewch heibio i Novotel ac yn syth ymlaen heibio i 5 set o oleuadau traffig sy’n dod yn gyflym ar ôl ei gilydd cyn i chi droi i’r dde yn y 6ed golau traffig pan welwch adeilad tal yr AA ar y llaw chwith. Trowch i’r chwith ar unwaith i faes parcio’r orsaf neu cymerwch y de cyntaf  i swyddfa’r CCHD os ydych wedi bwcio lle cadw yn y maes parcio.
  •  O’r De Orllewin : Ewch tua’r gogledd ar y M5 a dilynwch yr arwyddion am Dde Cymru a’r M4. 
  •  O’r Canolbarth a’r Gogledd: Ewch tua’r M50 (cyffordd 8 ar y M5) ac wedyn ewch ar yr A40 (wedi ‘i arwyddo De Cymru, Trefynwy). Dilynwch yr A40 tan i chi gyrraedd Trefynwy pan ddaw’r heol yn A449. Ewch ymlaen tan i chi gyrraedd cylchdro’r Coldra a chymerwch y 5ed allanfa i ymuno ar M4.

Maes Parcio:
Mae un lle parcio hygyrch ar gael yn Sgwâr Callaghan  ar gyfer ymwelwyr ond mae rhaid bwcio hwn o flaen llaw gyda Gemma Stubbs ar 02920 447710. I yrwyr heb anabledd, maes parcio’r orsaf yw’r un agosaf i’r swyddfa ac mae’n costio £7.50 y dydd.

Swyddfa Bangor

Swyddfa Gogledd Cymru, Canolfan Lafan, 2 Glanrafon, Bangor Gwynedd, LL57 1LH
Ffôn 01248 360582 (galwadau heb fod i’r llinell gymorth yn unig)
Ffôn testun 01248 360583
Ffacs 01248 360584

Ymholiadau’r cyfryngau


Os ydych yn gweithio i’r cyfryngau ac yn dymuno siarad â’n swyddfa’r wasg, galwch 02920 447710 os gwelwch yn dda.
 

back to top