Bydd rownd nesaf digwyddiadau rhanbarthol y Gyfnewidfa Gydraddoldeb yn rhoi cyfle i chi i gymryd rhan yn ‘Ymarfer Gwrando’ Llywodraeth y Cynulliad. Drwy ddatblygu ar drafodaethau blaenorol, rydym am i chi ddweud wrthym ba ddyletswyddau sector cyhoeddus fyddai’r mwyaf effeithiol wrth gyflawni cydraddoldeb.
Am fwy o wybodaeth ar yr ymgynghoriad, ewch i wefan y Cynulliad
Yn ychwanegol byddwn yn trafod casgliadau ac argymhellion adroddiad Ymchwiliad Hawliau Dynol y Comisiwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Rydym am ddechrau diffinio beth hwyrach y byddai cymryd dull hawliau dynol yn ei olygu o fewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Cynhelir y digwyddiadau ar y dyddiadau canlynol yn y mannau canlynol ledled Cymru:
Bydd cyfyngiad i leoedd yn y digwyddiadau hyn. Os hoffech fynychu, bwciwch eich lle cyn gynted â phosibl drwy lenwi’r ffurflen ateb sydd ynghlwm a’i dychwelyd i heather.dean@equalityhumanrights.com neu ei phostio at Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 3ydd Llawr, 3 Sgwâr Callaghan, Caerdydd CF10 5BT.