Digwyddiadau Rhwydwaith Cyfnewidfa Cydraddoldeb: Rhagfyr 2011 - Cyflawni’r dyletswyddau penodol yn hyderus

Dydd Mawrth 6 Rhagfyr - Wrecsam
Dydd Mawrth 13 Rhagfyr - Caerdydd
Dydd Mercher 14 Rhagfyr - Abertawe

Bydd y set nesaf o ddigwyddiadau Rhanbarthol Cyfnewidfa Cydraddoldeb yn adeiladu ar y gweithdai dyletswyddau penodol a gynhaliwyd ym mis Medi.

Cael aelodau i gyflawni’r dyletswyddau penodol yn hyderus yw nod y diwrnod a’u defnyddio i gyflawni canlyniadau cadarnhaol.

Ym mis Medi gwnaeth aelodau drafod ac ystyried pennu amcanion cydraddoldeb yn fanwl, yn ogystal ag ymgysylltu, a chasglu gwybodaeth berthnasol. Ym mis Rhagfyr byddwn yn bwrw golwg ar y dyletswyddau sy’n cynnwys gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau, gofynion hyfforddiant a chyhoeddiadau.

Bydd y diwrnod yn cynnwys canllawiau, cyngor ac aelodau’n rhannu gwybodaeth a phrofiadau o ran eu cynnydd mewn perthynas â’r dyletswyddau. Bydd cyfle i archwilio unrhyw heriau a chyfleoedd sydd ar y gweill. Byddwn yn sicrhau bod themâu allweddol ac adborth yn cael eu rhannu gyda’r rhwydwaith ehangach fel y bo pawb yn elwa.

Bydd y digwyddiadau hyn yn digwydd rhwng 10am a 3pm.

E-bostiwch Mandy.Bain@equalityhumanrights.com i gadarnhau’r digwyddiad hoffech fod yn bresennol ynddo ac unrhyw ofynion diet neu fynediad y mae angen i ni fod yn ymwybodol ohono a/neu os hoffech gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Y dyddiad cau ar gyfer neilltuo lle yw dydd Gwener 25 Tachwedd neu’n gynharach os ydyn ni’n llawn! I’n helpu gyda’n cynllunio a’n cyllidebau, byddwn yn gwerthfawrogi petaech yn gallu cofrestru cyn gynted â phosibl.

back to top