Heddiw dywedodd Kate Bennett, Cyfarwyddydd Cenedlaethol Cymru'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol bod rhaid symud materion cydraddoldeb i fyny’r agenda cyhoeddus yn ystod y dirywiad economaidd cyfredol.
Meddai Kate Bennett: “Mae bywydau llawer o bobl yng Nghymru’n cael eu difetha o hyd gan wahaniaethu, rhagfarn a gwaharddiad cymdeithasol. Rydym yn pryderu y bydd y bwlch rhwng y rheini sy’n gyffyrddus yn ariannol a’r rheini sy ddim yn dal i agor yn ystod y dirywiad. Er enghraifft, gall bobl ifanc sy wedi bod yn ddi-waith am ddwy flynedd dioddef cosb ariannol a chymdeithasol a all barhau am ugain mlynedd.”
Daeth sylwadau Kate Bennett wrth i’r Comisiwn yng Nghymru lansio Pennu’r agenda newydd - adroddiad sy’n edrych yn ôl ar ddeunaw mis cyntaf y Comisiwn yng Nghymru ac ymlaen i’r gwaith bydd y sefydliad yn ei wneud eleni.
Mae’r Comisiwn wedi defnyddio cyhoeddiad yr adroddiad hwn fel cyfle i gyfrif stoc o’r agenda cydraddoldeb yng Nghymru. Mae canfyddiadau ciplun yn cynnwys:
Meddai Kate Bennett:
“Mae ein hadroddiad yn amlygu’r gwaith dychrynllyd sy’n cael ei wneud gan bobl ledled Cymru i greu lle ble mae pawb yn cael eu trin ag urddas a pharch. Ond mae cymaint eto i’w wneud.
“Mae’r flwyddyn o’n blaen yn ein darparu â chyfleoedd gwirioneddol i ddatblygu ar y sylfeini hyn a rhoi hwb i’r agenda cydraddoldeb – nid yn lleiaf y Mesur Cydraddoldeb, sy’n cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth o brif newid deddfwriaethol.”
“Mae rhaid i ni afael yn y cyfle hwn, a pheidio â gadael i gydraddoldeb lithro i lawr yr agenda. Mae rhaid i ni ar bob cyfrif osgoi defnyddio’r dirywiad economaidd fel esgus am beidio â mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sydd wedi’u hen sefydlu fwyaf yng Nghymru.
“Rydym yn benderfynol i sicrhau bod gan bawb gyfle teg mewn bywyd. Ac rydym eisiau gweithio gyda’r Llywodraeth, awdurdodau lleol, undebau llafur, ac unigolion a sefydliadau arall i gyflawni hynny.”
Meddai Neil Wooding Comisiynydd dros Gymru:
“Mae dwyn pobl ynghyd wedi bod yn ganolbwynt i’n gwaith ers i’r Comisiwn gychwyn yn Hydref 2007. Rydym wedi elwa o angerdd ac arbenigedd y rhai hynny sy’n ymwneud yn feunyddiol â gwella cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Mae’r cyfraniadau hyn wedi ein galluogi i osod sylfeini cadarn a gosod blaenoriaethau uchelgeisiol am y flwyddyn i ddod.
“Ein hamcan am y flwyddyn nesaf yw gosod agenda newydd ar gydraddoldeb a hawliau dynol. Rydym yn byw mewn amserau anodd ac mae hynny’n ei wneud mor bwysig bod gennym ni, a’r amrywiaeth ehangaf posibl o bartneriaid, yr hyder i hyrwyddo tegwch, urddas a pharch. Gyda’n gilydd credwn y gallwn adeiladu hyder ac ennill calonnau a meddylfryd y cyhoedd i agenda sy’n cyflawni i bawb.”
Mae Pennu agenda newydd yn gosod allan cynllun gwaith uchelgeisiol i’r Comisiwn yn 2009/10 . Mae prosiectau allweddol yn cynnwys:
Nodiadau
Am wybodaeth bellach, copïau o’r adroddiad a cheisiadau cyfweliad, cysylltwch â Jamie Westcombe (029) 2044 7710 neu symudol 07843325231 neu Sue Dye ar 07976 325863.