12/03/2008
Daeth Sipsiwn a Theithwyr o bob rhan o Gymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw i gyflwyno eu hachos dros fargen newydd rhwng cymuned sefydlog y wlad a'r gymuned deithiol.
Ymatebodd Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru, Dr Brian Gibbons, i'w pryderon drwy gyhoeddi grant i alluogi cynghorau lleol i adeiladu safleoedd newydd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr.
Mewn bore o ddigwyddiadau a gynhaliwyd yn y Senedd ac a drefnwyd gan Brosiect Croeso y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ymunodd cynrychiolwyr o bedair plaid wleidyddol y Cynulliad i alw am ymgyrch etholiadol rhwng nawr a'r etholiad ar 1 Mai sy'n ymwrthod ag ymelwa ar ragfarn.
Croesawodd Comisiynydd Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Neil Wooding, y camau sydd nawr yn cael eu cymryd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac Aelodau Cynulliad i sicrhau gwell bargen ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr.
‘Gallwn fod yn falch o'r ffordd y mae'r Cynulliad wedi ceisio mynd i'r afael â'r broblem hon sydd wedi bod yn glwyf parhaus ar gysylltiadau cymunedol. Cafwyd cytundeb rhwng yr arweinwyr gwleidyddol bod gweithredu synhwyrol erbyn hyn yn flaenoriaeth frys. Gyda safonau cywir yn cael eu gosod ac arian newydd ar gael rydym ni gyd yn gwybod bod gennym nawr gyfle i symud ymlaen.
‘Ond yn anffodus mae llawer iawn o ragfarn yn parhau yn erbyn aelodau o'r cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru. Mae hi felly yn bwysig bod pleidiau gwleidyddol yn y cyfnod yn arwain at yr etholiadau lleol yn ailadrodd eu hymrwymiad i weithio yn erbyn unrhyw ymelwa ar ragfarn mewn ymgyrchu gwleidyddol.
‘Dylai etholiadau lleol mis Mai fod yn gyfle i drafod atebion gwirioneddol sy'n diwallu anghenion pawb, dim eu hecsbloetio a llithro'n ôl i'r hen ragdybiaethau a stereoteipiau sydd ond yn gadael rhaniadau a hyd yn oed mwy o broblemau yn eu sgil.’
Roedd digwyddiadau’r diwrnod yn rhan o fis o weithgareddau gan Brosiect Croeso y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, menter sy’n herio rhagfarn yng Nghymru.
Daeth Cwmni’r Frân Wen o Ogledd Cymru i theatr Urdd Gobaith Cymru i berfformio eu drama di-flewyn ar dafod Johnny Delaney sy’n ymdrin â llofruddiaeth glaslanc o Deithiwr Gwyddelig yn 2003.
Mae carafán draddodiadol y Sipsiwn, y varda, a adnewyddwyd gan fyfyrwyr ysgol yn Sir Benfro, yn cael ei defnyddio yn Amgueddfa Werin Cymru fel canolbwynt ar gyfer gweithdai i ysgolion yn ardal Caerdydd.
I gael rhagor o fanylion cysylltwch â Sue Dye ar 02920 447778, Chris Myant 07774 813488
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff statudol a sefydlwyd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006 a ysgwyddodd gyfrifoldebau'r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r eiriolwr annibynnol dros gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain. Ei nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, cryfhau perthynas dda rhwng pobl, a hyrwyddo a diogelu hawliau dynol.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorfodi deddfwriaeth cydraddoldeb ar oedran, anabledd rhyw, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu statws trawsrywiol, ac yn annog pobl i gydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Mae hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad i fusnesau, y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus, ac i unigolion.