Mae pawb yn hoff o stori dda. Dyna paham yr ydym wedi cyd-weithio â rhai o ysgrifenwyr gorau Cymru i nodi pen-blwydd y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol yn 60.
Gofynnon ni i’r awduron ysgrifennu storiâu byrion a oedd yn dangos eu safbwynt ar bwysigrwydd hawliau dynol i fywydau pob dydd pobl yng Nghymru. Rydym wrth ein bodd gyda’u cynnyrch. Mae 'na rywbeth at ddant pawb yn y detholiad, beth bynnag eich oed neu ddiddordebau.
Nod y Comisiwn yw nodi pen-blwydd y Datganiad yn 60 drwy annog y cyhoedd i ddeall a dathlu hawliau dynol a’r gwerthoedd sy’n sylfaen iddynt, sef tegwch, urddas a pharch.
Gobeithio, bydd y straeon hyn yn ennyn ynoch ystyriaeth a thrafodaeth o hawliau dynol.
Darllen dedwydd!
Cliciwch yma am wybodaeth bellach am yr awduron
Y lesbiad gwrywaidd - Rachel Trezise
Mae ‘Y lesbiad gwrywaidd’ yn adrodd stori bachgen ifanc o’r enw Sam a’r sarhad mae’n ei gael wrth wisgo sgert i’r ysgol.
Mae stori Catrin Dafydd yn cylchdroi o gwmpas Leanne, disgybl ysgol a’r ymateb a gaiff wrth siarad Cymraeg â phobl.
Ffrog briodas Medi - John Sam Jones
Mae stori John Sam Jones yn archwilio barnau cyferbyniol teulu yn sgil datblygiad partneriaeth sifil Dylan ac Eric.
Byth yn ddiwrnod da i farw - Eifion Jenkins
Ysbrydolwyd stori Eifion Jenkins gan gyfweliadau a gafodd â hen filwyr Ail Ryfel Byd. Mae’r stori hon yn edrych y tu hwnt i’r ffurfwisgoedd yr ydyn ni i gyd yn gwisgo.
Teigr Bae Abertawe - A.D Miles
Stori cenau teigr i gynhesu’r galon gan A.D Miles yw Bachaa , ei deulu’n gadael fforestydd India i fyw ym Mae Abertawe.
Mae’r stori hon yn ymwneud â brwydr feunyddiol pobl yn byw yn fflatiau bloc Bryn Hyfryd.
Roedden ni'n ennill - Lewis Davies
Mae’r stori hon yn adrodd hanes ysmudiadol chwaraewr pêl droed ifanc, ar effaith y mae gwahaniad ei rhieni wedi ei gael arno ef a’i fam-gu a’i datgu.
Ysbrydolwyd stori Huw Lawrence gan frawd hynaf ei fam, gwr “âg anabledd meddwl a rhoddai iddo ddiniweidrwydd plentyn”.