Mae ‘Pa mor deg yw Cymru? yn rhoi cyd-destun Cymru i’r adolygiad Teirblwydd, gan ddarparu tystiolaeth annibynnol i fesur cynnydd tuag at gydraddoldeb, perthynas dda a hawliau dynol. O gynnig safbwynt newydd ar anghydraddoldebau parhaus mae’n nodi heriau newydd.
Drwy ein cynadleddau cafodd dros 150 o westeion y cyfle i archwilio canfyddiadau ein hadroddiadau carreg filltir Pa mor deg yw Cymru? ac Anghydraddoldeb Economaidd yng Nghymru.
Dadansoddiad o anghydraddoldeb economaidd yng Nghymru
Mewn cydweithrediad â Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) mae ‘Dadansoddiad o anghydraddoldeb economaidd yng Nghymru’ yn bwrw golwg ar y ffeithiau yn ymwneud ag anghydraddoldeb economaidd yng Nghymru, mewn ffordd heriol a newydd.
Mae Pa mor deg yw Cymru? yn amlygu’r heriau penodol sy’n wynebu Cymru dros y pum mlynedd nesaf. O ganlyniad, rydym yn nodi ‘agenda ar gyfer tegwch’ i Gymru.
Ym mis Hydref 2010 cyhoeddodd y Comisiwn ei Adolygiad Teirblwydd cyntaf, Pa mor deg yw Cymru? Dyma’r cyntaf o gyfres o adolygiadau a gaiff eu cyflwyno i’r Senedd bob tair blynedd. Argymhellwn bawb i fwrw golwg arno – mae’n cynnwys cyfoeth o ddata defnyddiol.