Addysg a sgiliau

Yr heriau

  • Cau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng grwpiau sosio-economaidd gwahanol – gan gynnwys cyrhaeddiad bechgyn, disgyblion du, Bangladeshaidd a Phacistanaidd  a phlant anabl
  • Gostwng achosion o bobl ifanc sy ddim mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

 Y dystiolaeth

  • Mae 53% o ddisgyblion a waharddwyd yn barhaol, ar gofrestr Datganiad o Anghenion Addysgol
  • Mae disgyblion sy’n gymwys i brydau ysgol rhad ac am ddim yn ddwywaith a hanner yn llai tebygol o gyflawni A*-C yn y pynciau craidd
  • Mae gan ddynion Bangladeshaidd a menywod Pacistanaidd a Bangladeshaidd y gyfran uchaf o fod heb gymwysterau
  • Nid yw 1 o bob 8 o bobl ifanc 16-18 mlwydd oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET)- cyfran uwch o fechgyn

 Dogfennau perthnasol

Taflen ffeithiau addysg a sgiliau 
Adroddiad Pa mor deg yw Cymru?
Dadansoddiad o anghydraddoldeb economaidd 
Mwy nag ystadegyn
Cyfarwyddyd ar y Ddyletswydd Cydraddoldeb ar gyfer sector cyhoeddus Cymru

 

back to top