Mae gan Woodheys Primary School yn Sale, Trafford flynyddoedd o brofiad o gynnwys plant anabl a’u rhieni ym mywyd yr ysgol. Er enghraifft, bu staff yn ymgynghori â disgybl ag anabledd corfforol, S, a’i mam ynglŷn â sut y gallai’r ysgol ei helpu hi i gael y gorau o wyliau antur. Sicrhaodd hyn brofiad cadarnhaol dros ben a roddodd hwb mawr i hyder S ac, yn ôl y Pennaeth, dychwelodd i’r ysgol fel ‘plentyn cwbl wahanol’.
Ar ôl symud i’r ysgol uwchradd, gwahoddwyd S yn ôl i’w hysgol gynradd i siarad am fynediad i blant ac oedolion anabl. O ganlyniad, gwnaed llawer o newidiadau yn yr ysgol, o drefniadau’r maes parcio i gynllun y bin sbwriel yn y toiled i bobl anabl. Erbyn hyn, mae S ar brofiad gwaith hirdymor yn yr ysgol ac yn cyfrannu at bob agwedd ar gymorth yn yr ystafell ddosbarth.
Yn ogystal â helpu i gynllunio’r llwybr gweithgareddau awyr agored hygyrch newydd, mae S hefyd yn dechrau helpu disgybl anabl sy’n agored i niwed a’i riant i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael i blant anabl yn yr ysgol. Mae cynnwys S ym mywyd yr ysgol dros sawl blwyddyn wedi gwella a chyfoethogi dealltwriaeth staff o anabledd. Mae hefyd wedi helpu disgyblion i ddysgu mwy am anabledd, ac mae S wedi bod yn esiampl gwych i ddisgyblion anabl eraill.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.woodheys.trafford.sch.uk/index.php
Wrth ddatblygu cynllun cydraddoldeb i bobl anabl, aeth Framwellgate (Secondary) School yn Durham ati i sefydlu grŵp cydraddoldeb i bobl anabl a oedd yn cynnwys disgyblion, llywodraethwyr a rhieni, yn ogystal â staff addysgu, cymorth a gweinyddol. Mae’r rhan fwyaf o aelodau’r grŵp yn anabl neu’n gofalu am blentyn anabl. Cam cyntaf y grŵp oedd adolygu polisïau’r ysgol yng ngoleuni’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd. Treuliwyd tipyn o amser ar hyn i sicrhau bod llawer o bobl yn cael cyfle i ymwneud ac ymgysylltu â’r broses. Roedd hi hefyd yn bosibl paratoi testun a oedd yn rhydd o jargon ac yn hawdd i ddisgyblion ei ddeall. Cafodd y cynrychiolwyr disgyblion adborth gan gyd-ddisgyblion trwy gynnal grwpiau ffocws. Trwy gymryd digon o amser, roedd yr ysgol o’r farn ei bod wedi sicrhau gwell dealltwriaeth o’i dyletswyddau a’i chyfrifoldebau, yn ogystal â gwerthfawrogiad mwy trylwyr o anabledd a’i effaith ar ddisgyblion, rhieni a staff.
Ar ôl y gwaith adolygu cychwynnol hwn, roedd y grŵp o’r farn ei fod yn gallu datblygu ei gynllun gweithredu a’i gynllun cydraddoldeb i bobl anabl. Mae gan y cynlluniau hyn berchnogaeth eang ledled yr ysgol ac maen nhw’n cael eu hintegreiddio ym musnes y sefydliad. Un canlyniad pwysig yw datblygiad a hunanhyder y myfyrwyr yn y grŵp. Roedden nhw’n cael eu trin fel aelodau cyfartal o’r grŵp ac yn derbyn hysbysiadau ffurfiol a chofnodion cyfarfodydd. Roedden nhw hefyd yn gallu mynychu cyfarfodydd yn amser gwersi ac yn cael eu gwahodd i gadeirio cyfarfodydd. Mae hyn wedi gwella hyder a chyfraniad y disgyblion yn sylweddol. Mae’r disgyblion wedi:
Pan ddaeth yr amser i adolygu’r cynllun, penderfynodd y grŵp ehangu’r cylch gorchwyl i gynnwys materion yn ymwneud â rhyw a hil, yn ogystal â materion eraill fel bwlio homoffobig.
Cynhaliodd yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb mewn perthynas â chynnig i fuddsoddi yn Play Pathfinders. Y nod oedd gwella’r cyfleoedd chwarae mewn ardaloedd difreintiedig ledled y wlad trwy ddatblygu parciau chwarae cynhwysol sy’n cael eu goruchwylio a thrwy ailwampio safleoedd cyfredol. Bydd yna hefyd fuddsoddiad cyfalaf ar gael i awdurdodau lleol yn Lloegr. Wrth i’r rhaglen ddatblygu, cynhaliodd swyddogion adolygiad eang o’r llenyddiaeth ymchwil a chafwyd barn plant, pobl ifanc a’u gofalwyr. Roedd hyn yn hanfodol o ran ehangu dealltwriaeth llunwyr polisi.
Trwy siarad â phlant a phobl ifanc anabl a’u rhieni, daeth pwysigrwydd ardaloedd chwarae meddal a thoiledau hygyrch i’r amlwg. Trwy siarad â merched, cadarnhawyd bod angen llefydd tawel hefyd, yn ogystal ag ardaloedd chwarae. Cafodd y casgliadau hyn a chasgliadau eraill eu defnyddio i lywio cynllun y prosiect ac i sicrhau bod y rhaglen yn gynhwysol ac yn ystyried gwahanol anghenion.
I weld yr asesiad effaith, ewch i: www.dcsf.gov.uk/des/docs/PlayEQUIA.doc