Yn 2005, edrychodd Comisiwn y Ddeddf Iechyd Meddwl (MHAC) ar y cydbwysedd rhwng y rhywiau ymhlith ei gomisiynwyr. Er bod y cydbwysedd cyffredinol yn gymharol gyfartal, roedd mwy o ddynion yn gomisiynwyr ardal (cyflog uwch) a mwy o fenywod yn gomisiynwyr lleol (cyflog is). Cynhaliodd MHAC asesiad o effaith y broses recriwtio ar gydraddoldeb ac, o ganlyniad, mae newidiadau wedi’u gwneud i ddisgrifiadau swydd i annog mwy o fenywod i wneud cais am swyddi comisiynydd ardal.
Adolygodd staff cydraddoldeb ac adnoddau dynol y disgrifiad swydd a manyleb y person, gan roi sylw i’r iaith a’r cynnwys, i sicrhau nad oedd rhagfarn ar sail rhyw. Roedd hyn yn cynnwys siarad â chomisiynwyr am yr hyn a oedd wedi gwneud iddynt benderfynu gwneud neu beidio â gwneud cais am y swyddi gwahanol. O ganlyniad i adborth, gwnaed disgrifiadau swydd a manylebau’r person yn symlach, gan ddileu cynnwys nad oedd yn hanfodol. Y nod oedd sicrhau na ddylai pobl â’r gallu i gyflawni’r swydd gael eu hannog i beidio â gwneud cais oherwydd diffyg profiad, ac roedd hyn yn fwy tebygol o effeithio ar fenywod na dynion.
Penodir comisiynwyr i MHAC gan y Comisiwn Penodiadau Cenedlaethol. Yn flaenorol, roedd pob penodiad yn seiliedig ar gystadleuaeth agored. Er mwyn dileu’r anghydbwysedd, cafodd MHAC gydsyniad ar gyfer recriwtio mewnol.
O ganlyniad, gwelwyd llawer o symudiadau mewnol, gyda sawl menyw’n newid o fod yn gomisiynydd lleol i fod yn gomisiynydd ardal. Ddiwedd 2007, defnyddiwyd proses recriwtio agored ar gyfer swyddi gwag yn y ddau faes. Mae gwaith monitro’n dangos bod cynnydd yn cael ei wneud mewn perthynas â chydraddoldeb rhywiol.
Mae’r ddyletswydd i gynnwys pobl anabl wedi creu newid diwylliannol go iawn yng Nghomisiwn y Ddeddf Iechyd Meddwl. Yn y rhaglen ‘Acting Together’, mae Comisiynwyr a defnyddwyr gwasanaethau’n cynnal ymweliadau ar y cyd â chyfleusterau iechyd. Mae’r ymweliadau hyn wedi galluogi comisiynwyr i weld y gwasanaeth o safbwynt y defnyddiwr. Hefyd, mae defnyddwyr ag anableddau corfforol wedi nodi materion mynediad fel cyfleusterau ymolchi addas a darparu cadeiriau priodol ar wardiau.
Cynhaliodd Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol GIG Cymru brosiect monitro cydraddoldeb cleifion. Mae’r prosiect hwn wedi:
Cynhaliwyd treialon cyn i wasanaethau orfod casglu’r data. Rhagwelir y bydd y data’n rhan hollbwysig o’r gwaith o asesu effaith y polisi ar wahanol grwpiau. Yr her nesaf i’r sefydliad fydd sicrhau bod y data’n cael ei ddadansoddi a’i ddefnyddio i lywio’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: Wefan GIG Cymru
Er mwyn cael mynediad i wardiau paediatrig a mamolaeth ysbyty, roedd yn rhaid cyfathrebu ar lafar trwy intercom, a nodwyd bod hyn yn rhwystr i ddefnyddwyr gwasanaethau byddar. Nid oedd yna ffordd o roi gwybod i staff y wardiau hyn bod ymwelydd neu ddefnyddiwr gwasanaethau’n fyddar neu angen cymorth. Er mwyn dod o hyd i ateb, daeth adran cydraddoldebau’r Ymddiriedolaeth â defnyddwyr byddar, staff wardiau ac ystadau a chwmni cynllunio’r intercom ynghyd.
Roedd defnyddwyr byddar yn gwbl gefnogol i’r angen i sicrhau diogelwch wardiau a buont yn gweithio i helpu staff a chynllunwyr i ddeall y rhwystrau i gyfathrebu. Bu’r cynllunwyr yn arbrofi gyda nifer o syniadau, ac fe wnaethon nhw ganfod sawl ateb i wella’r dull cyfathrebu, er enghraifft, botymau cymorth wedi’u goleuo a bocs testun gyda chyfarwyddiadau mynediad. Hefyd, soniodd y defnyddwyr am yr arwyddion cyffredinol gwael ar gyfer yr intercom ac argymellwyd y dylid darparu arwyddion gwell gyda lluniau.
Caiff yr intercom newydd ei dreialu yn yr ysbyty, a disgwylir argymhellion i gyflwyno’r cynllun newydd yn fwy eang. Yn ôl adborth gan y cwmni cynllunio, dyma’r tro cyntaf i rywun ofyn iddyn nhw edrych ar hygyrchedd yr intercom. Er mwyn adeiladu ar y wybodaeth a’r ddealltwriaeth o faterion cyfathrebu a’r rhwystrau sy’n wynebu defnyddwyr gwasanaethau, mae rhaglen hyfforddiant ymwybyddiaeth o fyddardod ar waith, gan gynnwys staff ar wardiau lle mae’r intercom newydd yn cael ei dreialu.
Mae GIG Gogledd-ddwyrain Lloegr wedi gweithio gyda phob un o’i 23 sefydliad i ddatblygu fframwaith cynllun cydraddoldeb sengl. Datblygodd gweithgor o rwydwaith cydraddoldeb fframwaith a blaenoriaethau sydd wedi cael eu defnyddio gan ymddiriedolaethau unigol i arwain camau gweithredu lleol. Mae manteision y gwaith hwn yn cynnwys osgoi dyblygu trwy rannu data, sgiliau ac arbenigedd, a chynnal gweithgareddau cynnwys ac ymgynghoriad ar y cyd. Mae fframwaith perfformiad o gamau gweithredu lefel uchel wedi’i ddatblygu fel rhan o’r cynllun.
Caiff y fframwaith hwn ei fonitro ar draws pob ymddiriedolaeth gan GIG Gogledd-ddwyrain Lloegr. Cynnydd ar gasglu data ar gydraddoldeb yw un o’r camau ac anogir pob ymddiriedolaeth yn y rhanbarth i gyflwyno adroddiad blynyddol ar gynnydd ar faterion cydraddoldeb i’w Byrddau. Mae hyn yn helpu i godi proffil cydraddoldeb i sicrhau adnoddau ar gyfer y gwaith. Mae pecyn cymorth i asesu’r effaith ar gydraddoldeb ar gael i bob ymddiriedolaeth ei ddefnyddio.
Cynhaliodd yr Ymddiriedolaeth gynhadledd i staff ledled y rhanbarth a chomisiynwyd grŵp trydydd sector i ddarparu adborth gan y gymuned ar y cynllun cydraddoldeb sengl.
Fel rhan o adolygiad o’i wasanaeth arlwyo, cynigiodd ymddiriedolaeth iechyd meddwl o Ogledd Lloegr leihau’r oriau arlwyo ar draws pob safle.
Yn ôl gwaith sgrinio cychwynnol, hwyrach y byddai rhai defnyddwyr gwasanaethau anableddau dysgu a niwroadsefydlu’n ei chael hi’n anodd cael mynediad i’r gwasanaethau amgen, sef peiriannau gwerthu bwyd. Cynhaliwyd asesiad llawn o’r effaith ar gydraddoldeb, a chafwyd barn a chyngor gan ddefnyddwyr gwasanaethau. O ganlyniad, gwnaed newid sylweddol i’r cynnig gwreiddiol. Ni fyddai’r oriau arlwyo’n cael eu lleihau gymaint ac roedd ymrwymiad cadarn i sicrhau bod y peiriannau gwerthu bwyd yn gwbl hygyrch. Roedd pawb o’r farn bod hwn yn ganlyniad cadarnhaol.
Mae GIG Norfolk wedi gwneud cyfraniad allweddol at ddatblygu’r gwasanaeth dehongli a chyfieithu yn Norfolk (INTRAN), partneriaeth rhwng yr Ymddiriedolaeth, y Cyngor Sir a 30 o asiantaethau eraill yn y rhanbarth. Mae’r dull hwn yn darparu arbedion maint, y gallu i ymateb yn gyflym i anghenion penodol a baromedr cyflym o faterion cymunedol allweddol a ddaw i’r amlwg. Mae INTRAN yn hyfforddi cyfieithwyr cymunedol, sy’n darparu swyddi lleol. Mae hyn yn cynnwys sesiynau dehongli rheolaidd mewn dwy feddygfa. Mae INTRAN wedi’i gydnabod fel enghraifft o arfer da o ran cydlyniant cymdeithasol gan yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol, ac mae wedi derbyn dwy wobr genedlaethol am gaffael.
Am wybodaeth bellach, ewch i: wefan INTRAN
Mae pwyntiau gweithredu cynllun cydraddoldeb sengl Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Lewisham yn uniongyrchol gysylltiedig â sicrhau gwelliannau go iawn yn iechyd a lles y boblogaeth leol. Y nod yw lleihau anghydraddoldebau iechyd yn seiliedig ar ddata lleol a chenedlaethol a barn a chyfraniad pobl leol.
Mae cynllun gweithredu’r cynllun yn canolbwyntio ar bum maes gwasanaeth: iechyd meddwl, gwasanaethau anableddau dysgu, canser, imiwneiddio a gwasanaethau cardiofasgwlaidd.
Dros dair blynedd y cynllun, bydd yr ymddiriedolaeth yn nodi anghenion gofal iechyd penodol lesbiaid, dynion hoyw ac aelodau cymunedau ffyrdd ac yn gweithredu mewn perthynas â’r anghenion hynny. Mae’r camau gweithredu yn y cynllun yn cael eu hategu gan ganlyniadau y bydd yr ymddiriedolaeth yn eu defnyddio i fesur ei chynnydd. Bydd yr amcanion hyn yn helpu i sicrhau bod cydraddoldeb yn cael ei brif ffrydio ar draws y sefydliad, a bod staff ar bob lefel yn deall ac yn cael cymorth gyda’r gwaith o ddarparu canlyniadau iechyd da i bawb.
Am wybodaeth bellach, ewch i: www.lewishampct.nhs.uk/documents/1520.pdf