Mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru, Lloegr a’r Alban wedi’u cwmpasu gan ‘ddyletswyddau’r sector cyhoeddus’ sy’n gosod cyfres o rwymedigaethau cyfreithiol arnynt.
Daeth y cyntaf o’r tair dyletswydd, y ddyletswydd cydraddoldeb hiliol, i rym yn sgil Adroddiad Macpherson ar lofruddiaeth y bachgen du ifanc, Stephen Lawrence. Ar ôl methiannau’r ymchwiliad i lofruddiaeth Lawrence, amlygodd yr adroddiad hiliaeth sefydliadol yn yr Heddlu Metropolitan, ac roedd hi’n glir bod angen ailfeddwl yn sylweddol ynglŷn â dull sefydliadau sector cyhoeddus o fynd i’r afael â gwahaniaethu a hiliaeth.
Cyn cyflwyno’r ddyletswydd cydraddoldeb hiliol, roedd deddfwriaeth cydraddoldeb flaenorol yn canolbwyntio ar wneud iawn am achosion o wahaniaethu ac aflonyddu ar ôl iddynt ddigwydd, yn hytrach nag atal sefyllfaoedd o’r fath rhag codi yn y lle cyntaf. Roedd y ddeddfwriaeth yn canolbwyntio ar fynd i’r afael ag achosion unigol, yn hytrach na mynd i’r afael â materion fel hiliaeth sefydliadol (fel y nodwyd yn Adroddiad Macpherson) a oedd yn codi ledled sefydliad.
Nod y ddyletswydd cydraddoldeb hiliol oedd symud baich y cyfrifoldeb o unigolion i sefydliadau, gan osod rhwymedigaeth ar gyrff cyhoeddus am y tro cyntaf i hyrwyddo cydraddoldeb, yn hytrach nag osgoi gwahaniaethu’n unig. O ganlyniad, rhoddwyd cydraddoldeb hiliol yn ganolog i’r holl waith o ddatblygu polisïau a gwneud penderfyniadau, gan arwain at newid sefydliadol. Trwy roi cydraddoldeb hiliol yn elfen ganolog o’u gwaith, yn hytrach na datblygu gwasanaethau cyhoeddus a oedd yn addas i bawb, roedd gofyn i awdurdodau cyhoeddus ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus a fyddai’n diwallu anghenion gwahanol grwpiau. Dylai hyn arwain at ddatblygu polisïau gwell a defnyddio adnoddau cyhoeddus yn fwy effeithiol.
Yn dilyn cyflwyno’r ddyletswydd hiliol, daeth yn glir y gellid hefyd wneud cynnydd mewn perthynas â meysydd cydraddoldeb eraill trwy gyflwyno dyletswyddau ar gyfer cydraddoldeb rhywiol a chydraddoldeb i bobl anabl. Ar ôl ymgynghori’n helaeth â’r llywodraeth, rhanddeiliaid, undebau ac unigolion, daeth y ddyletswydd cydraddoldeb i bobl anabl i rym yn 2006, gyda’r ddyletswydd cydraddoldeb rhywiol yn dod i rym yn 2007.