Mapio'r Bylchau

Ym mis Ionawr 2009, cyhoeddodd y Comisiwn, mewn partneriaeth â’r ymgyrch Dileu Trais yn erbyn Menywod, adroddiad newydd, 'Mapio’r Bylchau 2', sy’n mapio gwasanaethau cymorth arbenigol ar gyfer menywod sy’n dioddef trais, yn ôl ardal awdurdod lleol.

Yn ôl ein hadroddiad, nid oes gan un o bob pedwar awdurdod lleol wasanaeth cymorth arbenigol o gwbl, a dim ond un o bob deg sydd â gwasanaeth arbenigol ar gyfer menywod o leiafrifoedd ethnig. Gwelwyd bod cynnydd wedi bod yn nifer y Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol a llysoedd Trais Domestig arbenigol. Fodd bynnag, nid yw’r rhan fwyaf o fenywod sy’n dioddef camdriniaeth neu drais domestig yn cysylltu â’r heddlu, felly mae angen gwasanaethau arbenigol yn y sector gwirfoddol ac mae’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau hyn yn wynebu trafferthion ariannol. 

Mae’r Comisiwn yn ysgrifennu at bob awdurdod lleol, pan fo’r dystiolaeth yn awgrymu nad ydynt yn darparu gwasanaethau, i ofyn iddynt esbonio’r sefyllfa. Bydd y Comisiwn yn cymryd camau pellach yn erbyn y rheini sy’n methu â darparu ymateb boddhaol.

Ochr yn ochr â’r adroddiad hwn, lansiwyd gwefan ryngweithiol www.mapofgaps.org, lle gall y cyhoedd weld pa wasanaethau sydd ar gael yn eu hardal a chysylltu â’u AS a’u hawdurdod lleol i ofyn iddynt gymryd camau i wella’r ddarpariaeth. 

 

back to top