Pobl drawsrywiol: eich hawliau yn y gwaith neu mewn hyfforddiant galwedigaethol

Amddiffyn pobl drawsrywiol yn y gwaith neu mewn hyfforddiant galwedigaethol

Diwygiwyd y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw ym mis Mai 1999 i amddiffyn pobl drawsrywiol rhag gwahaniaethu ym maes cyflogaeth a hyfforddiant galwedigaethol.

Ni chaiff cyflogwyr wahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd:
 

  • yn y cyfnod recriwtio
  • mae hyn yn cynnwys y trefniadau a wneir ar gyfer llenwi swydd, ac wrth benderfynu pwy fydd yn cael y swydd
  • yn ystod cyflogaeth
    mae hyn yn cynnwys triniaeth gyfartal wrth ddyrchafu, hyfforddi, trosglwyddo, a mynediad i fuddion sy’n gysylltiedig â chyflogaeth, gan gynnwys cyflog, a hawliau i amgylchedd gwaith heb orfod wynebu achosion o aflonyddu ar sail ailbennu rhywedd
  • wrth derfynu cyflogaeth
    mae hyn yn cynnwys diswyddo a dethol ar gyfer dileu swydd.

Am ragor o wybodaeth am gyflwyno achos o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw, ewch i cyflwyno achos o wahaniaethu ar sail rhyw.

Am ragor o wybodaeth am eich hawliau yn y gwaith, ewch i’r adran gweithio ac ennill arian.

Am wybodaeth am sut i weithredu yn y gwaith os ydych chi’n dioddef gwahaniaethu, ewch i datrys problemau yn y gweithle

back to top