Delio â rhwystrau ffisegol

Mae'r ail ofyniad yn cynnwys gwneud newidiadau i chwalu'r rhwystrau a grëir gan nodweddion ffisegol gweithle cyflogwr.
Mae hyn yn golygu ei bod yn bosibl y bydd angen i'ch cyflogwr wneud rhai newidiadau i'w adeilad neu safle.

Mae'r union newid y bydd y cyflogwr yn ei wneud yn dibynnu ar y math o rhwystrau y mae'r safle'n ei achosi i chi. Bydd angen i'r cyflogwr ystyried y safle cyfan. Mae'n bosibl y bydd rhaid iddo newid mwy nag un peth.

Mae nodweddion ffisegol yn cynnwys: grisiau, grisffyrdd, ymylon palmentydd, arwynebau allanol, mannau parcio, mynedfeydd ac allanfeydd adeiladau (yn cynnwys llwybrau dianc mewn argyfwng), drysau mewnol ac allanol, clwydi, cyfleusterau tŷ bach ac ymolchi, cyfleusterau cyhoeddus (fel ffonau, cownteri a desgiau gwasanaeth), goleuadau ac awyru, lifftiau a grisiau sy'n symud, gorchuddion llawr, arwyddion, celfi, ac eitemau symudol neu dros dro (fel offer a rheseli arddangos). Mae nodweddion ffisegol hefyd yn cynnwys graddfa safle (er enghraifft, maint adeilad). Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysol.

  • Gallai nodwedd ffisegol fod yn rhywbeth sy'n gysylltiedig â strwythur yr adeilad ei hun fel grisiau, newid mewn lefel, diangfeydd argyfwng, neu ddrysau cul.
  • Neu gallai fod yn rhywbeth sy'n ymwneud â'r ffordd mae'r adeilad neu'r safle wedi cael ei ffitio, fel drysau trwm, tai bach anhygyrch neu oleuadau amhriodol.
  • Gallai fod yn rhywbeth sy'n ymwneud â'r ffordd mae pethau wedi'u trefnu o fewn yr adeilad fel ffitiadau a gosodiadau, fel uchder silffoedd mewn mannau storio neu seddi sefydlog mewn ffreutur.

Er enghraifft:

Mae cyflogwr wedi recriwtio gweithiwr sy'n defnyddio cadair olwyn ac a fyddai'n ei chael yn anodd symud o amgylch y swyddfa. Mewn ymgynghoriad â'r gweithiwr, mae'r cyflogwr yn aildrefnu trefn y celfi yn y swyddfa. Mae'r cyflogwr wedi gwneud addasiadau rhesymol.
 
 

Rhagor o wybodaeth

back to top