Nid oes rhaid i gyflogwyr hysbysebu swyddi gweigion mewn ffordd neilltuol nag o gwbl.
Ond os nad yw cyflogwr yn hysbysebu o gwbl neu os yw’n hysbysebu mewn ffordd na fydd yn cyrraedd pobl sydd â nodwedd warchodedig neilltuol, efallai y bydd hyn mewn rhai sefyllfaoedd yn arwain at wahaniaethu anuniongyrchol, oni bai y gall y cyflogwr gyfiawnhau’n wrthrychol eu hagwedd. Mae hyn oherwydd y gallai peidio hysbysebu neu hysbysebu mewn ffordd gyfyng yn unig atal pobl sydd â nodwedd warchodedig neilltuol rhag cael gwybodam swydd, a allai gyfrif fel triniaeth waeth.
Er enghraifft:
Mae cyflogwr mawr yn recriwtio gweithwyr i swyddi gyrru ar lafar. Mae hyn yn golygu bod pawb sydd â swydd yrru’n aelod o’r un garfan fach o deuluoedd neu’n ffrind i’r teuluoedd hyn. Mae holl aelodau’r teuluoedd a’u ffrindiau’n wyn, er gwaethaf y ffaith fod y gweithle mewn ardal ag ynddiboblogaeth leiafrifol ethnig uchel. Oni bai y gall y cyflogwr gyfiawnhau’n wrthrychol y ffordd y mae gyrwyr yn cael eu recriwtio, mae’n debyg bod hyn yn wahaniaethu anuniongyrchol oherwydd hil.
Os yw cyflogwr yn hysbysebu,boed ar hysbysfwrdd, mewn ffenestr siop, mewn papur newydd neu ar wefan, neu drwy ddefnyddio asiantaeth recriwtio, mae rhaid i gyflogwr beidio rhoi’r argraff eu bod yn bwriadu gwahaniaethu.
Er enghraifft:
Mae cyflogwr yn hysbysebu am ‘weinyddes’. I osgoi gwahaniaethu uniongyrchol oherwydd rhyw, dylent hysbysebu am ‘staff gweinyddu’ neu am ‘weinyddes neu weinydd’.
Nid yw hyn yn berthnasol os yw unrhyw un o’r eithriadau a restrir ar dudalennau 12-15 yn bodoli . Bryd hynny gallai’r cyflogwr sôn am nodwedd warchodedig neilltuol yn yr hysbyseb am y swydd.
Os yw cyflogwr yn hysbysebu swydd, mae rhaid iddynt beidio datgan na chyfleu bod swydd yn anaddas i bobl anabl yn gyffredinol neu i berson anabl sydd ag amhariad o fath neilltuol, oni bai fod rheswm eglur iawn am hyn sy’n gysylltiedig â’r swydd.
Er enghraifft:
Mae cyflogwr yn hysbysebu am rywun i drosglwyddo parseli ar ben eu hunain; mae’r hysbyseb yn datgan y bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus yrru agallu codi’r parseli. Mae’n amlwg bod yr angen i yrru yn ofyniad i’r swydd. Er y gallai wahardd rhai bobl anabl, e.e. y rhai hynny sydd ag amhariad ar y llygaid, ni fyddai’n gwahardd pob person anabl . Felly byddai’n anghywir – ac yn wahaniaethol -i roi ‘anaddas i bobl anabl’ yn yr hysbyseb i’r swydd.
Mae rhaid i’r cyflogwr beidio datgan na chyfleu na fydd newidiadau’n cael eu gwneud ar gyfer person anabl oni bai fod rheswm eglur iawn am hyn sy’n gysylltiedig â’r swydd.
Er enghraifft:
Pan yw ysgol yn hysbysebu am athro i weithio mewn adeilad sydd ar ddau lawr ac sydd heb lifft, mae rhaid iddynt beidio datgan na fydd y swydd yn addas ‘i berson anabl’ oherwydd hyn. Yn hytrach , os ydynt yn dymuno mynd i’r afael â’r broblem hon yn yr hysbyseb, gallent ddatgan fod yr ysgol ar ddau lawr ond y byddent yn croesawu ceisiadau oddi wrth bobl anabl beth bynnag yw eu hamhariad ac y byddent yn gwneud addasiadau rhesymol yn y cyfweliad ac wrth benodiar gyfer ymgeiswyr sydd ag amhariado ran symudedd. Os yw’r ysgol yn cyfweld ymgeisydd sydd ag amhariad symudedd, byddai’n addasiad rhesymol i gynnal y cyfweliad rywle gyda mynediad gwastad. Os oes gan yr ymgeisydd llwyddiannus amhariad symudedd, gellid gwneud addasiad rhesymol i ganiatáu iddynt wneud eu haddysgu ar y llawr gwaelod ac, os oes angen, gellid darparu mynediad gwastad i’r llawr gwaelod drwy osod ramp os nad yw hyn yn bodoli eisoes, cyhyd â bod y rhain yn addasiadau rhesymol.
Os yw cyflogwr eisiau, gallant hysbysebu swyddyn un sydd yn agored i ymgeiswyr anabl yn unig neu gallant ddweud mewn hysbyseb eu bod yn annog i bobl anablgynnig am swydd. Nid yw hyn yn wahaniaethu anghyfreithlon yn erbyn pobl nad ydynt yn anabl. Ni chaniateir i gyflogwr drin person anabl yn well (neu fel y mae’r gyfraith ar gydraddoldeb yn ei alw’n ‘fwy ffafriol’) na pherson nad yw’n anabl. Gellir gwneud hyn hyd yn oed os nad yw’r person anabl yn profi anfantais benodol oherwydd eu hanabledd yn y sefyllfa neilltuol. Y rheswm y cynlluniwyd y gyfraith fel hyn yw i gydnabod fod pobl anabl yn gyffredinol yn wynebu llawer o rwystrau wrth geisio cymryd rhan mewn gwaith a gweithgareddau eraill.
Rhagor o wybodaeth