Mae yna nifer o bobl o’r ddau ryw yn y Deyrnas Unedig nad yw eu hunaniaeth o ran rhywedd (eu synnwyr o fod yn ddyn neu fenyw) yn cyd-fynd â’u hedrychiad a / neu anatomi. Mae oddeutu 1,500 o bobl yn ceisio cymorth meddygol am hyn bob blwyddyn.
Gelwir y bobl hynny sydd, gyda chyngor a chymorth meddygol, yn penderfynu mabwysiadu’n barhaol y rhyw gwahanol i’r un oeddynt adeg eu geni yn ‘bobl drawsrywiol’.
Hefyd, mae nifer sylweddol o bobl yn mabwysiadu rôl rhywedd cymdeithasol gwahanol heb ymyrraeth feddygol ffurfiol. Gelwir y rhain yn ‘bobl drawsryweddol’.
Defnyddir y term ‘trawsryweddol’ hefyd fel term ambarél i gyfeirio at bawb nad yw eu hedrychiad o ran rhywedd yn cyd-fynd yn llwyr â’r rôl a ddisgwyliwyd yn wreiddiol yn ôl y rhyw yr oeddynt adeg eu geni. Darllenwch fwy am sut y disgrifir y termau.
Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn anghyfreithlon i drin person yn llai ffafriol oherwydd ei fod yn bwriadu, wrthi neu wedi ailbennu ei rywedd. Darllenwch fwy ar yr hyn y mae’r gyfraith yn ei ddweud.
Bwriad yr adran hon yw cynorthwyo cyflogwyr i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu’n anfwriadol yn erbyn pobl drawsrywiol neu drawsryweddol wrth recriwtio staff, a’u bod yn ymddwyn yn briodol pan fo gweithiwr cyflogedig cyfredol angen trawsnewid rhyw yn y gweithle.
• Trawsnewid ac ailbennu rhywedd
• Pobl drawsrywiol neu drawsryweddol mewn polisïau cyfle cyfartal
• Monitro
• Ystyriaethau wrth recriwtio
• Cyfweld pobl drawsrywiol neu drawsryweddol
• Cadw pobl wrth iddynt drawsnewid
• Deall y broses ailbennu rhywedd, gan gynnwys yr angen am amser i ffwrdd
• Newid cofnodion
• Rolau sydd angen gwiriadau y Swyddfa Cofnodion Troseddol
• Cod gwisg, toiledau ac ystafelloedd newid
Hefyd ar y wefan:
• Eich hawliau: gwahaniaethu trawsryweddol
• Adolygu ymchwil anghydraddoldebau trawsrywiol neu drawsryweddol