Canllaw i gyflogwyr yw’r pecyn cymorth hwn ar wneud archwiliad cyflog cyfartal. Hedyd mae’n cynnig cyngor ar arfer da cyflog cyfartal, ar gynnal asesiadau effaith cydraddoldeb ac mae’n darparu canllaw ar y gweithredoedd sy’n codi o’r archwiliad a fydd rhaid eu gweithredu efallai i ddileu unrhyw fylchau cyflog. Bydd yn gymorth i chi wneud archwiliad cyflog cyfartal yn gysylltiedig â rhyw, hil, anabledd, neu batrymau gweithio eich gweithwyr. Byddwn yn cyfeirio at y gweithwyr hyn fel ‘grwpiau a amddiffynnir’.
Mae’r Comisiwn ar hyn o bryd yn asesu’r potensial ar gyfer addasiadau pellach i’r pecyn i alluogi cyflogwyr i fynd i’r afael â bylchau cyflog ar sail oedran, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd a chred.
Mae’r pecyn cymorth yn cynnig canllaw cyffredinol yn unig ac ni ddylid ei ystyried yn osodiad awdurdodol neu gyflawn o’r gyfraith.
Dylai ddarllenwyr fod yn effro i bosibilrwydd datblygiadau’n gyfraith yr achos a all effeithio ar hawliau’r gweithwyr.
Bwriedir i ddefnyddio’r pecyn cymorth fel dogfen fyw, y gellir ychwanegu ati, neu gymryd oddi arni, yn dibynnu ar newidiadau deddfwriaeth gyfredol, cyfraith achos a phrofiad y defnyddiwr. Os oes gennych unrhyw sylwadau ar y pecyn e-bostiwch: Jenny.Birchall@equalityhumanrights.com os gwelwch yn dda.