Mae gan bob un ohonom ein profiadau bywyd ein hunain, sy’n golygu ein bod oll yn gweld bywyd mewn ffordd wahanol.
Mae pob iaith, ffordd o fyw a chrefydd yn ychwanegu rhywbeth at ein diwylliant. Yn yr un modd, mae amrywiaeth yr ystod o gredoau a chredau gwahanol yn peri i’r DU fod yn lle mwy diddorol i fyw ynddo.
Mae cydnabod cyfraniad ein hamrywiaeth i’n cymdeithas yn gofyn i ni barchu unigolion eraill a’u trin yn deg ac ag urddas. Heb barch a chysylltiadau da rhwng grwpiau, ni all pobl chwarae rhan weithredol mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt ac mae’n bosibl y cânt eu hatal rhag cyflawni eu potensial. Gall prinder parch rhwng pobl o wahanol gefndiroedd gyfrannu at aflonyddwch cymdeithasol.
Dylech gael cyfle i fynegi eich barn a’ch credau’n rhydd a pharchu barn a chredau pobl eraill.
Dylech hefyd fod yn gallu chwarae rhan weithredol ym mywyd eich cymuned a phrosesau gwleidyddol Prydain. Mae’n bwysig bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eich bywyd yn clywed eich llais.
Mae cyfraith y DU yn cynnwys ystod o hawliau dynol sy’n hyrwyddo amrywiaeth a’ch cyfranogiad i fywyd y gymuned.
Pa hawliau dynol sy'n berthnasol?