Diogelu eiddo

Mae gennych yr hawl i fwynhau eich eiddo’n heddychlon.

Gall eiddo gynnwys pethau fel tir, tai, cyfranddaliadau, trwyddedau, prydlesau, patentau, arian, pensiwn a rhai mathau o fudd-daliadau lles.

Ni all awdurdod cyhoeddus mynd ag eiddo oddi arnoch neu osod cyfyngiadau ar eich defnydd ohono, oni bai fod ganddynt reswm da iawn am wneud hynny.

Mae’r hawl hon yn gymwys i gwmnïau’n ogystal ag unigolion.

Enghraifft

Os yw awdurdod cyhoeddus yn bwriadu adeiladu heol ar dir rhywun, mae rhaid bod cyfreithiau ar waith ganddynt i ganiatáu hynny. Mae rhaid bod ganddynt hefyd, weithdrefn i ofalu cydbwysedd deg rhwng y manteision i’r cyhoedd o adeiladu’r heol a hawl yr unigolyn i’w dir.

(Enghraifft wedi’i chodi o Human rights, human lives, ‘Department for Constitutional Affairs, 2006’.)

Ar y dudalen hon

 Cyfyngiadau

Mewn rhai sefyllfaoedd, bydd awdurdodau cyhoeddus efallai, yn ymyrryd ar eich hawl i fwynhau eich eiddo yn heddychlon, e.e. drwy gyfyngu ar eich defnydd ohono neu fynd ag ef oddi wrthoch.

Mae hyn yn bosibl ond pan fydd yr awdurdod yn gallu dangos bod gan ei weithredoedd sylfaen gywir yn ôl y gyfraith a’i fod er budd y cyhoedd.

Mae rhaid i’r llywodraeth lwyddo i gydbwyso’n deg, eich buddiannau chi fel perchennog yr eiddo a’r manteision cyffredinol i’r gymdeithas yn ei chyfanrwydd.

Os aethpwyd â’ch eiddo oddi wrthoch, dylai fod yr hawl gennych i iawndal.

Nid yw’r hawl hon yn effeithio ar allu’r awdurdodau cyhoeddus i orfodi trethi neu ddirwyon.

Beth ddywed y gyfraith

Protocol 1, Erthygl 1: Diogelu eiddo

Mae gan bob dinesydd neu berson cyfreithlon yr hawl i fwynhau eu heiddo’n heddychlon. Ni chaniateir i neb gael eu hamddifadu o’u heiddo oni bai y gwneir hynny er budd y cyhoedd a’i fod yn destun amodau sy’n unol â’r gyfraith a chan egwyddorion cyffredinol cyfraith ryngwladol.

Ni chaniateir i hyn, fodd bynnag, amharu mewn unrhyw fodd ar hawl y Wladwriaeth i orfodi deddfau sydd, yn ei thyb hi, yn angenrheidiol ar gyfer rheoli defnydd o eiddo’n unol â buddiannau cyffredinol neu i sicrhau bod trethi, neu gyfraniadau eraill neu gosbau’n cael eu talu.

Achosion enghreifftiol

Howard v United Kingdom (1985)

Ceisiodd awdurdod feddiannu tŷ, drwy orfod, ar gyfer ail-ddatblygu tai. Roedd y Comisiwn Hawliau Dynol Ewrop o’r farn mai’r cwestiwn i’w ofyn mewn achosion o’r fath yw p’un a yw’r awdurdod cyhoeddus wedi llwyddo i gael cydbwysedd deg rhwng hawliau perchnogion yr eiddo a hawliau’r gymuned wrth ddifeddiannu unrhyw eiddo. Ffactor arwyddocaol mewn unrhyw gyd-bwyso o’r fath yw argaeledd iawndal sy’n adlewyrchu gwerth yr eiddo a ddifeddiannwyd.

 (Cafwyd crynodeb yr achos gan Sefydliad Hawliau Dynol Prydain)

J.A. Pye (Oxford) Ltd v United Kingdom (2005)

Cadarnhaodd Llys Hawliau Dynol Ewrop yn ddiweddar bod gan berchnogion eiddo sy’n colli eu teitl oherwydd eiddo anffafriol, hawl o bosib, i iawndal gan lywodraeth y Deyrnas Unedig.

 

back to top