Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn diogelu eich hawl dynol i beidio â chael eich dal mewn caethwasiaeth na chaethwasanaeth.
Ystyr caethwasiaeth yw pan fydd rhywun yn berchen arnoch fel darn o eiddo.
Mae caethwasanaeth yn debyg. Efallai y byddwch yn byw yn eiddo’r unigolyn, yn gweithio iddo ac yn methu â gadael, ond na fyddant yn eich perchen yn swyddogol.
Mae’r gyfraith hefyd yn eich diogelu rhag llafur gorfodol – eich gorfodi i weithio o dan fygythiad cosbedigaeth nad ydych chi wedi cytuno i’w dderbyn.
Mae eich hawl i gael eich diogelu rhag caethwasiaeth a chaethwasanaeth yn ddiamod. Ni ellir fyth gyfyngu arno.
Mae’r gyfraith o ran llafur gorfodol yn ddiamod hefyd. Ond nid yw’n gymwys i waith y bydd yn rhaid i chi ei wneud fel rhan o ddedfryd yn y carchar neu ddedfryd gymunedol. Nid yw’n gymwys ychwaith i waith y mae’r gyfraith yn ei wneud yn ofynnol i chi ei wneud mewn stad o argyfwng. Yn olaf, nid yw’n cynnwys rhwymedigaethau dinesig arferol, fel cynnal a chadw adeilad os ydych yn berchennog neu ddidynnu treth o gyflog eich gweithwyr os ydych chi’n gyflogwr.
Erthygl 4: Gwahardd caethwasiaeth a llafur gorfodol
1. Ni chaiff neb eu dal mewn caethwasiaeth na chaethwasanaeth.
2. Ni fydd yn ofynnol i unrhyw un gyflawni llafur a orfodir neu lafur gorfodol.
3. At ddibenion yr Erthygl hon, ni fydd y term “llafur a orfodir neu lafur gorfodol" yn cynnwys:
(a) unrhyw waith y mae’n ofynnol ei wneud yng nghwrs arferol carchariad a orfodir yn unol â darpariaethau Erthygl 5 y Confensiwn hwn, neu yn ystod cyfnod o ryddhad amodol o’r cyfryw garchariad;
(b) unrhyw wasanaeth o natur filwrol neu, yn achos gwrthwynebwyr cydwybodol mewn gwledydd lle cânt eu cydnabod, gwasanaeth a fynnir yn lle gwasanaeth milwrol gorfodol;
(c) unrhyw wasanaeth a orfodir yn achos argyfwng neu drychineb sy’n bygwth bywyd neu les y gymuned;
(d) unrhyw waith neu wasanaeth sy’n rhan o rwymedigaethau dinesig arferol.
Daethpwyd â merch 15 oed i Ffrainc o Togo gan ‘Mrs D’, a dalodd am ei thaith ond a gymerodd ei phasport oddi wrthi wedi hynny. Cytunwyd y byddai’r ferch yn gweithio i Mrs D tan iddi dalu pris ei thocyn awyren yn ei ôl, ond ar ôl rhai misoedd fe’i ‘benthycwyd’ i ‘Mr a Mrs B’, a’i gorfododd i weithio am 15 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos heb dâl, heb wyliau, heb ddogfennau adnabod a heb i’w statws fel mewnfudwr gael ei awdurdodi. Gwisgodd y ferch ddillad ail-law, ac nid oedd ganddi ei hystafell ei hun. Ymyrrodd yr awdurdodau pan ddaethant i wybod am y sefyllfa. Fodd bynnag, ar y pryd, nid oedd caethwasiaeth a chaethwasanaeth yn droseddau penodol yn Ffrainc. Barnodd Llys Hawliau Dynol Ewrop y cadwyd y ferch mewn caethwasanaeth a bod Ffrainc wedi torri ar ei rhwymedigaethau cadarnhaol o ran gwahardd caethwasiaeth a llafur gorfodol, am nad oedd cyfraith Ffrainc wedi diogelu’r ferch mewn ffordd benodol ac effeithiol.
(Crynodeb o achosion a gymerwyd o Human rights, human lives, Yr Adran Materion Cyfansoddiadol, 2006.)