Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn amddiffyn eich hawl i gael eich meddyliau, eich credoau a’ch crefydd eich hun. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i newid eich crefydd neu gredoau ar unrhyw bryd.
Mae gennych hawl hefyd i roi eich meddyliau a’ch credoau ar waith. Er enghraifft, ni all awdurdodau cyhoeddus eich atal rhag arfer eich crefydd, yn gyhoeddus neu’n breifat, heb reswm da iawn fel yr amlinellir yn y cyfyngiadau.
Yn bwysig, mae’r hawl hon yn amddiffyn ystod eang o gredoau crefyddol a chredoau eraill, gan gynnwys feganiaeth, heddychiaeth, agnosticiaeth ac anffyddiaeth.
Mae’r Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi barnu na ellir gorfodi unigolyn i amlygu barnau sy’n gysylltiedig â chrefydd benodol. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, y dylai awdurdodau lleol ofalu wrth ddyfeisio gweithdrefnau ar gyfer tyngu llwon. Byddai gofyniad i dyngu llw ar destun crefyddol fel y Beibl yn torri cyfraith hawliau dynol. Felly, dylai fod gan awdurdodau cyhoeddus fath gwahanol o gadarnhad defodol heb orfod dibynnu ar ffurfiau crefyddol.
(Tynnwyd yr enghraifft hon o Human rights, human lives, Yr Adran Materion Cyfansoddiadol, 2006)
Gweler hefyd:
yr hawl i ryddid mynegiant
diogelu rhag gwahaniaethu
yr hawl i addysg
gwybodaeth ynglŷn â chrefydd yn Adran gydraddoldeb y safle hwn
Efallai, mewn rhai sefyllfaoedd, bydd awdurdodau cyhoeddus yn ymyrryd â’ch hawl i feddu ar ystod eang o farnau, credoau a meddyliau, yn ogystal â ffydd grefyddol.
Nid yw hyn ond yn bosibl lle gall yr awdurdod ddangos bod gan ei gamau sail gywir yn ôl y gyfraith, a’i fod yn angenrheidiol a ‘chymesur’ er mwyn diogelu:
Ymateb ‘cymesur’ i broblem yw un nad yw’n fwy na’r hyn sydd ei angen ac sy’n briodol ac sy ddim yn ormodol yn yr amgylchiadau.
Erthygl 9: Rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd
1. Mae gan bawb yr hawl i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd. Mae’r hawl hon yn cynnwys y rhyddid i newid ei grefydd neu gred a rhyddid, naill ai wrth ei hunan neu mewn cymundeb ag eraill ac yn gyhoeddus neu’n breifat. Mae gan bawb hefyd yr hawl i amlygu ei grefydd neu gred, wrth addoli, ymgymryd â hyfforddiant dysgu a wrth ei chadw.
2. Ni chyfyngir ar y rhyddid i amlygu crefydd neu gred ond i’r graddau a bennir gan y gyfraith ac sy’n angenrheidiol mewn cymdeithas ddemocrataidd er budd diogelwch cyhoeddus. A hefyd i ddiogelu trefn gyhoeddus, iechyd neu foesau, neu hawliau a rhyddfreiniau eraill.
Mae gan yr hawl hon arwyddocâd arbennig o dan y Ddeddf Hawliau Dynol. Mae Adran 13 o’r Ddeddf yn gofyn ar lysoedd a thribiwnlysoedd i roi ‘ystyriaeth arbennig ar bwysigrwydd yr hawl honno’. Yn enwedig pan fo’n nhw’n rhoi gwrandawiad i achosion a fydd hwyrach yn effeithio ar ymarfer yr hawl hon gan sefydliad crefyddol.
R (ar gais Begum) v Ysgol Uwchradd Dinbych
Cafodd merch Fwslimaidd ei rhwystro rhag mynychu’r ysgol am iddi wrthod gwisgo gwisg shalwar kameeze yr ysgol, gan ddewis gwisgo jilbab mwy cyffredin yn ei lle. Dadleuodd y bod hynny'n amharu ar ei hawliau o dan Erthygl 9 i amlygu’i chrefydd. Barnodd Tŷ’r Arglwyddi nad oedd ei hawl i amlygu’i chrefydd wedi'i thorri oherwydd y gallai hi fod wedi mynychu ysgolion eraill yn ei dalgylch a oedd yn caniatáu i’w disgyblion wisgo’r jilbab. Ar ben hynny, roedd yr ysgol wedi gweithio’n galed i ddatblygu polisi gwisg ysgol a oedd yn ystyried credoau’i disgyblion Mwslimaidd ac roedden nhw wedi cynllunio’r polisi mewn ffordd gynhwysol. Yn yr amgylchiadau hyn, dedfrydodd y llysoedd y byddai wedi bod yn amhriodol iddynt ymyrryd ar benderfyniad yr ysgol a oedd mewn man gwell i asesu’r sefyllfa sensitif hon.
(Darparwyd crynodeb o’r achos gan Sefydliad Hawliau Dynol Prydain )
R (Williamson ac eraill) v Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Chyflogaeth ac eraill (2005)
Galwyd Erthygl 9 i rym mewn ymgais i droi’r gwaharddiad ar gosb gorfforol i blant gan athrawon, ar ei ben. Fel rhan o ddyletswydd addysg yn y cyd-destun Cristnogol honnwyd y dylai athrawon fedru cymryd rhan rhiant a rhoi cosb gorfforol i blant a oedd yn euog o gamymddwyn. Barnodd Tŷ’r Arglwyddi bod y gwaharddiad statudol yn anelu at nod cyfreithlon a'i fod yn gymesur. Roedd plant yn agored i niwed a nod y ddeddfwriaeth oedd eu diogelu hwy ac i hyrwyddo’u lles. Hanfod cosb gorfforol yw achosi trais corfforol yn fwriadol. Bwriadwyd y ddeddfwriaeth i ddiogelu plant yn gyfreithiol rhag y gofid, poen ac effeithiau niweidiol arall y gall drais corfforol hwyrach i’w achosi.
(Tynnwyd yr enghraifft hon o Human rights, human lives, Yr Adran Materion Cyfansoddiadol, 2006.)
Pendragon v Deyrnas Unedig (1998)
Cafodd safle treftadaeth cenedlaethol a ddefnyddiwyd yn draddodiadol gan dderwyddon yn ystod heulsafiad yr haf, ei gau’n gyfreithiol gan yr awdurdodau. Honnodd dderwydd bod yr awdurdodau wedi ymyrryd yn anghyfreithlon â’i hawliau yn ôl Erthygl 9. Anghytunodd y llys. Barnodd yn gyntaf, bod yr awdurdodau wedi gweithredu’n ôl y gyfraith, gan fod ganddynt y grym i gau’r safle o dan Ddeddf Senedd. Ac yn ail, y rheswm am gau’r safle oedd nad oedden nhw’n gallu gwarantu diogelwch y sawl oedd yn dathlu heulsafiad yr haf. Felly roedden nhw’n gweithredu er budd diogelwch cyhoeddus, ac roedd yr ymyrraeth yn gyfreithlon.
(Tynnwyd yr enhraifft hon o Human rights, human lives, Yr Adran Materion Cyfansoddiadol, 2006.)