Mae gan bawb yr hawl i gael addysg effeithiol.
Hefyd, mae gan riant yr hawl i sicrhau bod eu credoau crefyddol ac athronyddol yn cael eu parchu yn ystod addysg y plant.
• Cyfyngiadau
• Beth ddywed y gyfraith
• Achosion enghreifftiol
Nid yw’r hawl i gael addysg yn rhoi’r hawl i chi i ddysgu beth a fynnoch, ble bynnag a fynnoch.
Mae’r llysoedd wedi deddfu bod yr hawl i gael addysg yn berthnasol i’r gyfundrefn addysg sydd eisoes yn bodoli. Nid yw’n gofyn i’r llywodraeth ddarparu neu gymorthdalu unrhyw fath penodol o addysg.
Caniateir y llywodraeth i reoleiddio sut y cyflenwir yr addysg. Er enghraifft, gall ddeddfu i wneud addysg yn orfodol neu osod gofynion iechyd a diogelwch ar ysgolion.
Mae polisïau derbyn ysgolion yn ganiataol ond iddynt fod yn wrthrychol a rhesymol.
Er bod gan riant yr hawl i sicrhau bod eu credoau crefyddol ac athronyddol yn cael eu parchu yn ystod addysg eu plant, nid yw’r hawl hon yn absoliwt. O roi ystyriaeth briodol i’r credoau hyn, gall awdurdod addysg eu hymwrthod ond pan fo rhesymau da am wneud hynny, ac iddo’i wneud mewn ffordd wrthrychol, feirniadol ac amlblwyfol.
Protocol 1, Erthygl 2: Yr hawl i gael addysg
Ni wrthodir i neb, eu hawl i gael addysg. Wrth arfer ei swyddogaeth o ran addysg ac addysgu, mae rhaid i’r Wladwriaeth barchu hawliau rhiant i sicrhau bod yr addysg a’r addysgu yn cydymffurfio âg argyhoeddiadau crefyddol ac athronyddol y rhiant.
Simpson v United Kingdom (1989)
Gall rhieni plant ag anghenion arbennig ddadlau bod anghenion eu plant yn gofyn am gyfleusterau y bydd, efallai, rhaid i awdurdodau addysg eu parchu. Fodd bynnag, nid yw yn hawl absoliwt, a bydd gan yr awdurdodau’r hawl i ddewis sut fyddan nhw’n dyrannu adnoddau cyfyngedig.
Gall awdurdodau geisio’n gyfreithiol i integreiddio plentyn ag anghenion arbennig i mewn i ysgol brif ffrwd, hyd yn oed os bydd hynny’n groes i ddymuniad y rhieni.
(Crynodeb achos wedi’i godi o Human rights, human lives, Adran dros Faterion Cyfansoddiadol, 2006.)
R (Hounslow London Borough Council) v School Admissions Appeal Panel for Hounslow London Borough Council (2002)
Yng ngorllewin Llundain roedd ysgol gynradd yn ei pholisi derbyn plant i’w hysgol yn rhoi blaenoriaeth i’r rheiny oedd yn byw yn nalgylch dynodedig yr ysgol. Apeliodd rhai rhieni plant a oedd yn byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol ond â brawd neu chwaer eu plentyn yn mynd i’r ysgol honno, yn erbyn y penderfyniad i beidio â derbyn eu plentyn ar y sail y byddai nifer y plant yn y dosbarthiadau o’r herwydd yn uwch na’r hyn oedd yn dderbyniol yn arferol. Dyfarnodd y llys nad oedd polisi derbyn yr ysgol, i roi blaenoriaeth i fan byw mewn ardal neilltuol dros chwaer neu frawd yn mynd i’r un ysgol, yn torri ar yr hawl i gael addysg. Pwysleisiodd y llys y byddai rhaid i awdurdodau derbyn wneud penderfyniadau derbyn ymarferol sy’n wrthrychol deg ac wedi’i wneud drwy broses deg pan fo ceisiadau’n fwy na’r llefydd ysgol sydd ar gael iddynt. Yn ogystal, mae hyn yn golygu y bydd rhaid ystyried pob cais unigol yn gywir yn ôl ei haeddiant cyn gwneud y penderfyniad terfynol.
(Cafwyd y crynodeb gan Sefydliad Hawliau Dynol Prydain)
The Queen on the Application of K v London Borough of Newham (2002)
Dymunai Mwslim selog i’w ferch unarddeg oed gael ei haddysgu mewn ysgol un rhyw. O ganlyniad i resymau crefyddol, roedd o’r farn y byddai’n amhriodol i ferch sy’n hŷn na’r oedran hwn i gymysgu gyda bechgyn neu dynion ifanc yn yr ysgol. Nid oedd unman ar y ffurflen dderbyn iddo allu mynegi’r farn honno ac nid ystyriwyd hi gan naill yr awdurdod derbyn na’r panel apêl. Dyfarnodd y llys y bod hyn o ran addysg ei ferch yn torri ar ei hawl i sicrhau bod ei gredoau crefyddol yn cael eu parchu. Cadarnhaodd y llys mai’r diffyg ystyriaeth i argyhoeddiadau crefyddol y tad oedd yn gyfrifol am dorri’r hawl ac nid y penderfyniad ei hun.
(Cafwyd y crynodeb achos gan Sefydliad Hawliau Dynol Prydain)