Yr hawl i wrandawiad teg

Bydd gennych hawl i wrandawiad teg a chyhoeddus os:

  • cewch eich cyhuddo o drosedd ac y bydd yn rhaid i chi fynd gerbron llys
  • y bydd awdurdod cyhoeddus yn gwneud penderfyniad y bydd iddo effaith bendant ar eich hawliau neu rwymedigaethau sifil.


Mae hawliau a rhwymedigaethau sifil yn cynnwys hawliau a rhwymedigaethau a gydnabyddir mewn rhannau gwahanol o gyfraith y DU, gan gynnwys cyfraith eiddo, cyfraith gynllunio, cyfraith deuluol, cyfraith gontractau a chyfraith gyflogi.

Mae’n syniad da cael mwy o gyngor os byddwch chi o’r farn y gall hawl i wrandawiad teg a chyhoeddus fod yn gymwys i’ch achos chi.

Ar y Dudalen yma

Beth yw gwrandawiad teg a chyhoeddus?

Mae’r hawl i wrandawiad teg a chyhoeddus yn rhoi’r hawl i chi gymryd rhan effeithiol mewn gwrandawiad:

  • a gynhelir o fewn amserlen resymol
  • a gynhelir gerbron penderfynwr annibynnol a diduedd
  • sy’n rhoi mynediad i chi at yr holl wybodaeth berthnasol
  • sy’n agored i’r cyhoedd (er y gellir eithrio’r wasg a’r cyhoedd pan fydd y mater yn un hynod sensitif)
  • sy’n caniatáu i chi gael cynrychiolaeth neu gyfieithydd lle bydd hynny’n briodol ac
  • a ddilynir gan benderfyniad cyhoeddus

Bydd gennych hawl hefyd i gael esboniad o sut y daeth y llys neu’r awdurdod penderfynu at ei benderfyniad.

 

Pa hawliau sydd gennych mewn achos troseddol?

Mae gennych hawl i:

  • gael eich ystyried yn ddieuog tan i chi gael eich profi’n euog
  • gael gwybod beth y’ch cyhuddir ohono cyn gynted ag y bo modd
  • aros yn ddistaw
  • gael digon o amser i baratoi eich achos
  • gymorth cyfreithiol (cyllid) i dalu am gyfreithiwr os na allwch fforddio un a’i fod er lles cyfiawnder i chi gael un
  • fynychu eich prawf
  • gael mynediad at yr holl wybodaeth berthnasol
  • gyflwyno eich ochr chi o’r achos yn ystod y prawf
  • holi’r prif dyst yn eich erbyn a galw ar dystion eraill a
  • chael cyfieithydd, os bydd angen un arnoch


O dan y Ddeddf Hawliau Dynol, rhaid i bawb gael mynediad cyfartal at y llysoedd. Mae hyn yn cynnwys hawl i ddwyn achos sifil, er y gellir cyfyngu ar yr hawl hon, er enghraifft os byddwch chi’n methu’r terfyn amser ar gyfer dwyn achos neu’ch bod yn parhau i ddwyn achosion heb rinwedd iddynt.

Gweler hefyd yr hawl i ddim cosb heb gyfraith.

 

Cyfyngiadau

Ni fydd yr hawl i wrandawiad teg a chyhoeddus yn gymwys bob tro mewn achosion sy’n cynnwys:

  • cyfraith fewnfudo
  • estraddodiad
  • treth neu
  • hawliau pleidleisio


Nid yw ychwaith yn rhoi hawl awtomatig i chi gyflwyno apêl na chael cymorth cyfreithiol (cyllid) ar gyfer achosion sifil (achosion rhwng unigolion neu sefydliadau).

Gellir cyfyngu ar yr hawl i gael mynediad i’r llysoedd, er enghraifft, os byddwch:

  • yn dwyn achosion heb rinwedd dro ar ôl tro
  • yn fethdalwr
  • yn blentyn dan oed neu’n
  • methu’r terfyn amser ar gyfer dwyn achos

Yn olaf, bydd adegau pan na chaniateir i’r cyhoedd a’r wasg gael mynediad i wrandawiad. Gellir gwrthod hyn pan fydd er budd diogelu:

  • moesau
  • trefn gyhoeddus neu ddiogelwch gwladol
  • plant a phobl ifanc neu
  • breifatrwydd


Efallai y bydd y llysoedd hefyd yn penderfynu eithrio’r cyhoedd neu’r wasg os byddant o’r farn bod eu presenoldeb yn groes i fuddiannau cyfiawnder.

 

Yr hyn y mae’r gyfraith yn ei ddweud

Erthygl 6: Yr hawl i wrandawiad teg a chyhoeddus

1. Wrth bennu ei hawliau a’i rwymedigaethau sifil, neu unrhyw achos troseddol yn ei erbyn, mae gan bob unigolyn hawl i wrandawiad teg a chyhoeddus o fewn amser rhesymol gan dribiwnlys annibynnol a diduedd a sefydlwyd yn ôl y gyfraith. Caiff y dyfarniad ei gyhoeddi’n gyhoeddus, ond gellir eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r prawf cyfan neu ran ohono er budd moesau, trefn gyhoeddus neu ddiogelwch gwladol mewn cymdeithas ddemocrataidd, lle bydd buddiannau pobl ifanc neu ddiogelu bywyd preifat y partïon yn gwneud hynny’n ofynnol, neu i raddau sy’n hollol angenrheidiol ym marn y llys mewn amgylchiadau arbennig lle byddai cyhoeddusrwydd yn niweidio buddiannau cyfiawnder.

2. Caiff pawb a gyhuddir o drosedd eu hystyried yn ddieuog tan eu profi’n euog yn unol â’r gyfraith.

3. Bydd gan bob unigolyn a gyhuddir o drosedd hawl i’r hawliau sylfaenol canlynol:

a. i gael gwybod yn gyflym, mewn iaith y mae’n ei deall ac yn fanwl, am natur ac achos y cyhuddiad yn ei erbyn;

b. i gael digon o amser a chyfleusterau i baratoi ei amddiffyniad;

c. i’w amddiffyn ei hun yn bersonol neu trwy gymorth cyfreithiol a ddewiswyd ganddo neu, os na fydd ganddo’r modd i dalu am gymorth cyfreithiol, i’w gael am ddim pan fydd buddiannau cyfiawnder yn gwneud hynny’n ofynnol;

d. i archwilio tystion yn ei erbyn, neu gael rhywun arall i’w harchwilio, ac i sicrhau presenoldeb tystion ar ei ran a’u harchwilio o dan yr un amodau â thystion yn ei erbyn;

e. i gael cymorth cyfieithydd am ddim os na fydd yn deall neu’n siarad yr iaith a ddefnyddir yn y llys.

 

Achos enghreifftiol

H v Y Deyrnas Unedig (1987)

Cymerwyd plentyn mam a oedd yn dioddef problemau iechyd meddwl i ofal ar ôl i orchymyn diogelwch gael ei lunio i ddiogelu’r plentyn. Yn fuan wedi hyn, priododd y fam, gwellodd ei hiechyd meddwl a gwnaeth geisiadau i’r llysoedd am fynediad cynhaliaeth ac yna am ofal a rheolaeth, y gwrthodwyd y ddau ohonynt. Yna, daeth y llys â mynediad y fam at y plentyn i ben, gyda’r nod o ganiatáu i’r plentyn gael ei mabwysiadu. Dros gyfnod o ddwy flynedd a saith mis, aeth mam y plentyn a’i gŵr at y cyngor yn gyson, ond yn aflwyddiannus, i geisio adsefydlu cyswllt. Oedodd y cyngor yn sylweddol, gan fethu â rhoi gwybod iddynt i’r plentyn gael ei gosod gyda theulu mabwysiadu eisoes. Wedi hyn, lluniwyd gorchymyn mabwysiadu, a ddaeth â phob cysylltiad rhwng y plentyn a’r rhieni naturiol i ben. O ganlyniad i oediadau yn y weithdrefn, erbyn amser y gwrandawiad mabwysiadu, bu’r plentyn gyda’i rhieni mabwysiadu ers 19 mis ac nid oedd y fam wedi cael mynediad ati ers mwy na thair blynedd. Barnodd y llys bod yr oedi gan y cyngor yn groes i’r hawl i wrandawiad teg, yn arbennig o ystyried pwysigrwydd yr hyn a oedd yn y fantol a natur ‘anwrthdroadwy’ mabwysiadu.

(Crynodeb o achosion a gymerwyd o Human rights, human lives, Yr Adran Materion Cyfansoddiadol, 2006.)

 

 

back to top