Pa rwymedigaethau mae’r Confensiwn yn eu gosod ar y llywodraeth?

Pan fo llywodraeth yn cadarnhau’r Confensiwn, mae’n ymrwymo i gymryd camau ymarferol i wireddu hawliau. Dylai:

  • gymryd camau i sicrhau y gall pobl anabl fwynhau eu holl hawliau – er enghraifft, sicrhau bod pobl anabl yn cael eu diogelu’n llawn rhag pob math o wahaniaethu – gan gynnwys cymryd camau yn erbyn methu gwneud addasiadau rhesymol
  • edrych ar ddeddfau cyfredol a nodi pa newidiadau sydd angen eu gwneud
  • diddymu deddfau ac arferion sy’n gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl
  • pasio deddfau newydd a llunio polisïau newydd yn ôl yr angen
  • ystyried hawliau dynol pobl anabl ym mhopeth y mae’n ei wneud (mae pobl yn galw hyn yn ‘brif ffrydio’ – sicrhau ar ddechrau proses nad yw pobl anabl yn cael eu hallgáu)
  • osgoi gwneud unrhyw beth sy’n torri ar hawliau pobl anabl o dan y Confensiwn
  • sicrhau bod gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl anabl wedi derbyn hyfforddiant i ddeall sut i barchu eu hawliau
  • sicrhau bod y sector preifat ac unigolion yn parchu hawliau pobl anabl
  • hyrwyddo hygyrchedd, gan gynnwys datblygu safonau
  • sicrhau bod rhaglenni datblygu rhyngwladol yn mynd i’r afael â materion anabledd ac yn cynnwys pobl anabl, yn ogystal â gweithio gyda chyrff rhyngwladol eraill
  • casglu gwybodaeth ac ystadegau am rôl pobl anabl mewn cymdeithas fel y gall olrhain cynnydd a datblygu gwell polisïau.

Mae’r Confensiwn yn gosod rhwymedigaethau ar ‘Blaid y Wladwriaeth’: sef, yn achos Prydain, Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae diogelu a hyrwyddo llawer o’r hawliau o dan y Confensiwn yn dibynnu ar gamau gan awdurdodau lleol a rhanbarthol a chyrff cenedlaethol eraill. Felly, dylai Llywodraeth y DU gymryd camau i sicrhau bod yr awdurdodau hyn (er enghraifft, byrddau iechyd lleol, cynghorau lleol, arolygiaethau, yr heddlu) yn gwneud popeth sydd ei angen i roi’r Confensiwn ar waith. Bydd angen i Lywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth yr Alban sicrhau bod camau o’r fath yn cael eu cymryd yng Nghymru a’r Alban mewn meysydd lle mae’r cyfrifoldeb dros ddarparu deddfwriaeth, gwasanaethau neu gyfranogiad wedi’i ddatganoli.

Os bydd y llywodraeth yn methu cymryd y camau hyn, hwyrach y bydd yn torri ar y Confensiwn. Yn Rhan 3, rydym yn esbonio sut gallwch chi fynd i’r afael â hyn a sut gallwch chi ddefnyddio’r Confensiwn mewn perthynas â chyrff cyhoeddus eraill ac unrhyw un sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus ar eu rhan.

Dylid nodi bod gan y Confensiwn wahanol fathau o hawliau. Mae rhai hawliau’n rhoi hyblygrwydd i’r llywodraeth, ond nid felly hawliau eraill. Er enghraifft, ni chaniateir lladd neu arteithio unigolyn o dan unrhyw amgylchiadau. Gall hawliau eraill gael eu cyfyngu mewn rhai sefyllfaoedd, ac mae’n rhaid eu nodi yn y gyfraith, er enghraifft, mae gan bobl yr hawl i ryddid, ond gallant gael eu hanfon i’r carchar oherwydd trosedd sydd wedi’i hysgrifennu yn y gyfraith.

Mae llawer o’r hawliau yn y Confensiwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r llywodraeth gymryd camau rhagweithiol. Fodd bynnag, mae’r Confensiwn yn cydnabod efallai na fydd llawer o wledydd yn gallu cymryd camau i wireddu rhai o’r hawliau ar gyfer pob unigolyn anabl yn syth. Dylai’r llywodraeth geisio gwneud popeth yn ei phŵer a defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael i sicrhau bod pobl anabl yn mwynhau eu hawliau dynol cyn gynted â phosibl. Yn aml, gelwir hyn yn ‘sylweddoliad cynyddol’. Mae’n debygol y bydd y Cenhedloedd Unedig yn disgwyl i wlad gymharol gyfoethog fel Prydain, sydd eisoes â llawer o’r sylfeini yn eu lle, berfformio’n well na gwlad sy’n datblygu.

Wrth weithio ar welliannau i hawliau, dylai llywodraethau:

  • osgoi cymryd camau a fydd yn golygu na all pobl anabl fwynhau eu hawliau dynol, a
  • sicrhau bod pawb yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt o ran bwyd a chysgod, a lefelau sylfaenol o ofal iechyd ac addysg.

Mae Rhan 3 yn esbonio sut gallwch chi ddefnyddio’r Confensiwn.
 

back to top