Ein strategaeth hawliau dynol

Ein strategaeth a rhaglen weithredu ar gyfer 2009-2012

Mae’r strategaeth hon yn nodi sut rydym yn bwriadu defnyddio ein pwerau i gyflawni ein dyletswyddau hawliau dynol dros y tair blynedd nesaf. Mae hefyd yn dweud sut byddwn yn ymateb i argymhellion yr Ymchwiliad Hawliau Dynol a gynhaliwyd gennym.

Wrth ymateb i ymgynghoriad, ymchwil a gwrandawiadau ffurfiol yr Ymchwiliad, mae ein strategaeth hawliau dynol yn nodi ein gweledigaeth o hawliau dynol a’r hyn y gallwn ei wneud i ddiogelu ac amddiffyn yr hawliau hyn, a chynorthwyo sefydliadau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector i wneud yr un fath. Mae’r strategaeth yn ceisio creu amgylchedd o barch at hawliau dynol – trwy hybu dealltwriaeth a dangos gwerth cyfraith hawliau dynol ym mywyd pob dydd pobl.

Fel y dangosodd yr Ymchwiliad, ni fydd y gwaith hwn yn ddiwrthwynebiad. Mae’n rhaid i ni ddiffinio ein gweledigaeth o hawliau dynol ochr yn ochr ag amddiffyn bodolaeth hawliau dynol ym Mhrydain. Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau cartref a rhyngwladol i’w hannog i weithredu mewn modd sy’n seiliedig ar hawliau dynol, a hefyd yn chwalu’r anwireddau a’r camargraffiadau sy’n gysylltiedig â hawliau dynol.

Er hynny, mae ein strategaeth hefyd yn gyforiog o gyfleoedd. Dangosodd yr Ymchwiliad sut gall hawliau dynol roi cyfle i bobl herio biwrocratiaeth; eu grymuso i gyfrannu’n fwy llawn ac effeithiol at benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywyd; a helpu swyddogion cyhoeddus i lunio polisïau sy’n fwy parchus at y bobl fwyaf agored i niwed yn eu gofal. Ac, yn fwy na dim, mae’n galonogol gweld cefnogaeth ysgubol i hawliau dynol ym Mhrydain. Mae dros 80 y cant o’r cyhoedd yn cydnabod pwysigrwydd hawliau dynol o ran creu cymdeithas deg a chyfartal sydd â gwasanaethau cyhoeddus boddhaol.

Gweledigaeth y Comisiwn ar gyfer hawliau dynol yw Prydain lle mae:

  • bywyd ag urddas i bawb
  • rhyddid a chyfleodd pobl i gyflawni eu nodau mewn bywyd yn cael eu hymestyn yn gynyddol a lle ni chânt eu rhwystro gan ragfarn, gwahaniaethu neu yn ôl mympwy
  • hawliau dynol yn cael eu cydnabod fel gwerthoedd a rannwn gyda’n gilydd, nid yn unig hawliau rydym yn eu ceisio drosom ni ein hunain, gan ein helpu i adeiladu cymdeithas sy’n fwy cydlynol, gwâr a theg.

Blaenoriaethau strategol

Dyma bum blaenoriaeth y Comisiwn ar gyfer hawliau dynol:

  • Dim gwanhau yn gyfreithiol y lefelau o amddiffyniad o hawliau dynol a’r mecanweithiau ar gyfer gorfodi o dan y Ddeddf Hawliau Dynol a chytundebau hawliau dynol eraill a gymeradwywyd
  • Cydnabyddiaeth eang a dealltwriaeth gywir o hawliau dynol ar bob lefel o’r gymdeithas, gan gynnwys sut y gellir eu defnyddio gan unigolion a’u cymhwyso gan sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol
  • Prif ffrydio hawliau dynol i waith pump o leiaf o’r rheolyddion, arolygiaethau a chyrff ymdrin â chwynion mwyaf pwysig
  • Bod wedi datblygu fframwaith mesur credadwy a ddefnyddir yn eang ar gyfer hawliau dynol ac wedi adrodd yn erbyn y fframwaith hwn yn ein Hadolygiad Teirblwydd
  • Bod wedi dylanwadu’n glir ar arsylwadau terfynol y Cyrff Monitro Cytundebau ar gyfer Confensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Ffurf ar Wahaniaethu ar sail Hil, yn erbyn Arteithio a Thriniaeth Greulon, Annynol neu Ddiraddiol Arall ac ar Hawliau Pobl ag Anableddau ynglŷn â pherfformiad Prydain o ran parchu, amddiffyn a hyrwyddo hawliau dynol.

Dogfennau i’w lawrlwytho:

Darllen y datganiad i’r wasg: Y Comisiwn yn lansio strategaeth hawliau dynol

Gwahoddiad i ddigwyddiad: Hawliau dynol- mynd i'r afael â thlodi, cryfhau gwasanaethau cyhoeddus yn y DU

back to top