Y newyddion diweddaraf

Y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r Adolygiad Hawliau Dynol

Hydref 2011

Fel rhan o’n gwaith i hybu’r Adolygiad Hawliau Dynol, sydd ar fin gael ei lansio ym mis Rhagfyr, mae staff y Comisiwn wedi cefnogi taith ‘Hawliau Dynol yn y Gymuned’ Sefydliad Hawliau Dynol Prydain ym Manceinion, Bryste, Derby, Birmingham, Newcastle a Sheffield.

Bu’r daith, a noddwyd gan y Comisiwn, yn gyfle gwych i sôn wrth bobl am ein gwaith hawliau dynol: ein tri ymchwiliad ffurfiol, yr Adolygiad Hawliau Dynol sydd ar y gweill a’n hadnoddau canllaw newydd. Hefyd, mae’n gyfle i fwrw golwg ar heriau rhanbarthol a’r modd y mae pobl yn defnyddio dulliau hawliau dynol i ddatrys problemau a gwella gwasanaethau lleol.

Rydym ar hyn o bryd yn ceisio am enghreifftiau positif ynglŷn â sut y defnyddiwyd hawliau dynol i wella’r ffordd y rheolir a chyflawnir gwasanaethau cyhoeddus. Hefyd, mae diddordeb gennym mewn achosion bywyd go iawn o sut y defnyddiwyd hawliau dynol i ddelio â’r sefyllfaoedd anodd yr ydych chi, fel unigolyn efallai, wedi profi.

> Darllenwch fwy am astudiaethau achos a sut i’w hanfon atom

Gorffennaf 2011

Bu tîm prosiect yr Adolygiad Hawliau Dynol yn brysur yn coladu tystiolaeth ac ymchwil o ran ategu’r adroddiad terfynol. Drwy gydol mis Gorffennaf, rydym wedi cwrdd â rhanddeiliaid rhanbarthol a gwladol i gael eu barn ar ddefnyddio hawliau dynol i helpu gwella a datblygu sut y darperir gwasanaethau i’r cyhoedd. Ar gyfer y trafodaethau hyn, mae’r tîm yn benodol wedi canolbwyntio ar y themâu a ganlyn: noddfa a charchariad, trosedd casineb LGB, cyfiawnder troseddol, hawliau plant a phrofiadau pobl hŷn a phobl anabl o ran gofal cymdeithasol ac iechyd.

Bu amrywiaeth o randdeiliaid hawliau dynol i’r digwyddiadau, gan gynnwys y rhai sy’n gyfrifol am gyflenwi gwasanaethau; darparwyr eiriolaeth; a’r rheiny sydd â gofal am ddiogelu hawliau pobl.

Mae’r Comisiwn, hefyd, yn ceisio am enghreifftiau bywyd go iawn sy’n dangos y buddion positif o ddefnyddio hawliau dynol a sut y gall eu habsenoldeb effeithio ar ansawdd y gwasanaeth y mae rhywun yn ei gael. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a’r enghreifftiau o arfer dda a sâl, a roddwyd inni, i ategu ein dadansoddi presennol ac i sicrhau y seilir yr adroddiad terfynol ar dystiolaeth gadarn.

Byddwn yn parhau i adeiladu ar y dystiolaeth hon ac edrychwn ymlaen at gymal nesaf y prosiect pan fyddwn yn rhannu adroddiad drafft gyda sefydliadau hawliau dynol, allweddol.

Os hoffech ddarganfod fwy ynglŷn â’r prosiect hwn neu ddarparu enghreifftiau bywyd go iawn inni, cysylltwch â’r tîm adolygu hawliau dynol yn: humanrightsreview@equalityhumanrights.com

 

back to top