Golyga reoliadau fod gan sefydliadau sector cyhoeddus ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod eu gwefannau a’u hapiau yn bodloni gofynion hygyrchedd.
Rhaid i bob gwefan sector cyhoeddus ddilyn y rheoliadau erbyn 23 Medi 2020.
Os oes gennych gŵyn ynglŷn â gwefan sector cyhoeddus, dylech gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Ni (y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol) yw’r corff sydd yn gyfrifol dros orfodi’r rheoliadau.
Caiff y cwynion eu hestyn i ni gan EASS os na ellir eu datrys.
Am ragor o wybodaeth gweler canllaw’r Llywodraeth.
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Sep 2020