Mae’r DU yn cymryd rhan yn yr Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol (UPR). Proses adolygu gan gyfoedion yw hon a gynhelir gan Gyngor Hawliau Dynol y CU i asesu’r sefyllfa hawliau dynol ymhob Aelod Wladwriaeth y CU.
Mae’r UPR yn asesu sut mae gwladwriaethau yn rhoi hawliau dynol ar waith, gan edrych ar eu rhwymedigaethau hawliau dynol fel y’i amlinellwyd yn:
- Siarter y CU
- y Datganiad Cyffredinol Hawliau Dynol
- y cytuniadau hawliau dynol rhyngwladol yr arwyddodd pob gwladwriaeth iddo
- ymrwymiadau gwirfoddol, megis polisïau hawliau dynol cenedlaethol
- cyfraith ddyngarol ryngwladol berthnasol (sydd yn rheoleiddio ymddygiad rhyfel)
Traciwr hawliau dynol
Defnyddiwch ein traciwr hawliau dynol i ddod o hyd i holl argymhellion y CU ar gyfer UPR a chytuniadau’r CU. Mae gan y dudalen UPR wybodaeth benodol ar sut y caiff ei fonitro ac os yw’r DU yn bodloni safonau rhyngwladol.
Sut mae’r DU yn ei wneud
Asesodd Cyngor Hawliau Dynol y CU y DU ddiwethaf ym mis Mai 2017 a chyhoeddi’i argymhellion. Cafodd y DU gyfanswm o 227 o argymhellion ar gyfer gwelliannau i’w hanes hawliau dynol. Roedd y rhain yn cynnwys:
- ymgorffori cytuniadau hawliau dynol rhyngwladol i gyfraith ddomestig
- sefydlu mecanweithiau cenedlaethol cynhwysfawr ar gyfer monitro ac adrodd ar gynnydd a sicrhau bod yr UPR ac argymhellion cyrff cytuniad yn cael eu rhoi ar waith
- gweithredu i sicrhau bod gan bawb gyflogaeth lawn a gwaith gweddus
- gostwng anghydraddoldeb ar draws gymdeithas drwy nodi a mynd i’r afael ag anfanteision parhaus
- cryfhau mesurau i atal trais, camdriniaeth a throseddau casineb
- darparu mynediad cyfartal i gyfiawnder a chymorth cyfreithiol i unigolion a grwpiau difreintiedig ac sydd ar y cyrion
Ein gwaith ar yr UPR
Mae’r gwaith mwyaf diweddar a wnaed gennym fel rhan o’n monitro UPR yn cynnwys:
- datganiad ar y cyd yn nodi pwynt canol yr Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol (UPR) a papur briffio byr fel diweddariad canol tymor (Medi 2019)
- llythyr i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn gofyn i’r Llywodraeth sut fyddai’n rhoi argymhellion yr UPR ar waith (Rhagfyr 2017)
- adroddiad i Gyngor Hawliau Dynol y CU, yn amlinellu’r heriau allweddol ar gyfer y DU (Rhagfyr 2016)
Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Apr 2022