Erthygl

Cynllun cymorth cyfreithiol

Wedi ei gyhoeddi: 26 Medi 2024

Diweddarwyd diwethaf: 30 Mehefin 2022

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • Lloegr
  • Alban
  • Cymru

Cronfa ar gyfer achosion gwahaniaethu ar sail hil

Mae llawer o bobl ym Mhrydain wedi profi rhagfarn a gwahaniaethu oherwydd eu hil.

Ers mis Tachwedd 2021, mae'r gronfa hon wedi bod yn gwella canlyniadau i ddioddefwyr gwahaniaethu ac aflonyddu hiliol.

Mae hefyd wedi helpu cyflogwyr, darparwyr gwasanaethau a sefydliadau addysgol i ddeall eu cyfrifoldebau a beth yw canlyniadau peidio â dilyn y gyfraith.

Darllenwch rai o’n hachosion llwyddiant drwy’r gronfa:

Ein Cynllun Cymorth Cyfreithiol

Mae ein cronfa ar gyfer achosion gwahaniaethu ar sail hil yn rhan o'n Cynllun Cymorth Cyfreithiol.

Gall pobl sy'n profi gwahaniaethu ei chael hi'n anodd talu costau cymryd camau cyfreithiol.

Dechreuodd ein Cynllun Cymorth Cyfreithiol yn 2017. Mae’n darparu cyllid hanfodol a chymorth cyfreithiol i unigolion fel y gallant gael mynediad at y cyfiawnder y maent yn ei haeddu.

Rydym hefyd yn parhau i gymryd achosion pwysig sy'n gwneud y gyfraith yn gliriach ac yn gosod cynsail.

Achosion a phrosiectau cyfreithiol blaenorol

 Pan wnaeth Sandeep a Reena Mander gais i fabwysiadu babi, dywedwyd wrthynt y byddai cyplau Gwyn yn cael ffafriaeth. Fe wnaethom gefnogi eu hachos cyfreithiol a dyfarnodd y llys eu bod wedi dioddef gwahaniaethu.

Prosiect y gorffennol: gwahaniaethu mewn addysg

Yn 2017, fe ddechreuon ni brosiect i fynd i’r afael â bwlio ar sail hunaniaeth a gwahaniaethu mewn addysg.

Gall enghreifftiau o’r gwahaniaethu hwn gynnwys:

myfyrwyr anabl ddim yn cael cynnig cyrsiau rhan-amser fel addasiad rhesymol
ac eithrio nifer llawer uwch o ddisgyblion o hil arbennig


Arweiniodd y prosiect hwn ni i gymryd achos Ruby. Aeth Ruby â'i hysgol i'r llys ar ôl iddi orfodi polisi gwisg ysgol a oedd yn gwahardd gwallt Affro gyda gormod o gyfaint.

Pan na ymatebodd yr ysgol i’r hawliad, cyhoeddodd y llys ddyfarniad diofyn o’i blaid a daeth y teulu i setliad.

Fe wnaethom ariannu’r achos drwy’r llys a sicrhau cytundeb cyfreithiol-rwym gyda’r ysgol. Roedd yn rhaid i’r ysgol ddod â’r polisi gwahaniaethol i ben a rhaid ystyried ffactorau fel hil a chrefydd wrth benderfynu beth yw steil gwallt ‘rhesymol’.

Prosiect yn y gorffennol: gwahaniaethu ar drafnidiaeth gyhoeddus

Gwnaethom herio gweithredwyr trafnidiaeth i sicrhau eu bod yn cyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol fel bod hyn yn atal eraill.

Mae cyllid ar gyfer achosion newydd o dan y prosiect hwn bellach wedi dod i ben, ond byddwn yn dal i ystyried ceisiadau gan gynrychiolwyr cyfreithiol ar gyfer achosion a allai fodloni ein blaenoriaethau busnes a’r meini prawf yn ein polisi ymgyfreitha strategol

 

Os ydych yn gynrychiolydd cyfreithiol ac yn dymuno cysylltu â ni ynglŷn â mater, ewch i'n tudalen cysylltiadau.

Os ydych wedi profi gwahaniaethu ac angen gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth, cysylltwch â'r

Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Prosiect yn y gorffennol: gwahaniaethu ar sail anableddd

Gall pobl sydd wedi profi gwahaniaethu ar sail anabledd ei chael yn anodd cymryd camau cyfreithiol oherwydd prinder arian neu gymorth.

Yn 2017, aethom ati i wella’r sefyllfa drwy lansio’r prosiect cymorth cyfreithiol.

Roedd y cynllun peilot yn darparu cyllid a chymorth cyfreithiol i unigolion oedd wedi profi gwahaniaethu ar sail anabledd.

Yn gyfan gwbl, darparwyd £189,000 ar gyfer cymorth cyfreithiol ar draws 94 o achosion.

Diolch i’n cyllid ni, llwyddodd Tara Porter i ddwyn achos yn erbyn Network Rail ar ran ei mab Owen, nad oedd yn gallu defnyddio ei orsaf reilffordd leol oherwydd nad oedd ganddi fynediad heb risiau. Heb y cyllid, ni fyddai Tara wedi gallu cael cyngor gan fargyfreithiwr.

Ar ôl llwyddiant y prosiect peilot, darparwyd mwy o arian gennym i gefnogi achosion o wahaniaethu mewn addysg, tai a nawdd cymdeithasol. Mae’r cynlluniau hyn bellach wedi cau.

Diweddariadau tudalennau

Tudalennau cysylltiedig ar y wefan hon