Ym mis Gorffennaf 2021, fe lansiodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) ymchwiliad yng Nghymru a Lloegr i’r modd y gall oedolion hŷn ac anabl a gofalwyr di-dâl herio penderfyniadau awdurdodau lleol ynglŷn â’u gofal cymdeithasol a chymorth.
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r canfyddiadau o arolwg ar-lein o awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr er mwyn hysbysu’r ymchwiliad hwn.
Gall penderfyniadau’n ymwneud â’r gofal a / neu’r cymorth a dderbynia unigolion a gofalwyr di-dâl gan eu hawdurdod lleol gael effaith sylweddol ar eu bywydau, yn ogystal ag ar fywyd eu gofalwr di-dâl neu’r teulu ehangach. Felly, mae’r hawl i herio penderfyniadau yn ymwneud â’r math a maint y gofal a ddarperir (neu nas darperir) yn hanfodol os nad yw unigolion yn teimlo eu bod yn derbyn y gofal neu’r gefnogaeth gywir.
Tra’i bod yn bosibl bod y broses o herio penderfyniadau trwy brosesau cwyno a ddilynir gan yr ombwdsmon priodol yn ymddangos yn gymharol glir, cafwyd adroddiadau gan bobl â mynediad i gefnogaeth bod y system gwyno yn aml yn annigonol, gyda heriadau effeithiol i benderfyniadau neu ganlyniadau yn cael ei weld fel rhwystr enfawr i ofal briodol.