- Hafan
- Hawliau Dynol
- Beth yw hawliau dynol?


Beth yw hawliau dynol?
Hawliau dynol yw’r hawliau a rhyddidau sylfaenol sy’n eiddo i bob person yn y byd, o enedigaeth tan farwolaeth. Maent yn gymwys heb ystyried o ble rydych yn dod, yr hyn rydych yn ei gredu neu sut rydych yn dewis byw eich bywyd. Ni ellir eu tynnu byth, er gallant gael eu cyfyngu ar brydiau – er enghraifft os yw person yn torri’r gyfraith, neu er budd diogelwch cenedlaethol.
Mae’r hawliau sylfaenol hyn wedi’u seilio ar werthoedd fel urddas, tegwch, cydraddoldeb, parch ac annibyniaeth. Ond nid yw hawliau dynol yn gysyniadau haniaethol yn unig – maent yn cael eu diffinio a’u diogelu gan y gyfraith. Ym Mhrydain diogelir ein hawliau dynol gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Rydym wedi llunio’r animeiddiad byr hwn i ddangos pam fo hawliau dynol mor bwysig, a sut maent yn ein diogelu ni yn ein bywydau o ddydd i ddydd.
Sut mae hawliau dynol yn eich helpu chi?
Mae hawliau dynol yn berthnasol inni i gyd, nid yn unig y rhai hynny sy’n wynebu gormes neu gamdriniaeth. Maent yn eich diogelu mewn sawl maes yn eich bywyd dyddiol: dyma rai yn unig o’r prif hawliau a rhyddidau maent yn eu cefnogi:
- eich hawl i fywyd preifat a theuluol yn ogystal â mynegi’ch barn, ac
- eich hawl i beidio â chael eich mam-drin neu’ch cosbi’n anghywir gan y wladwriaeth.
O ble mae hawliau dynol yn dod?
Mae gan y syniad y dylai pobl gael set o hawliau a rhyddidau sylfaenol wreiddiau dwfn ym Mhrydain. Mae datblygiadau o bwys ym Mhrydain yn cynnwys Magna Carta 1215, Deddf Habeas Corpus 1679 a Deddf Hawliau 1689. Gweler Gwefan Llyfrgell Prydain am ragor o wybodaeth ar y rhain ac eiconau eraill o ryddid a chynnydd.
Fe wnaeth erchyllterau’r Ail Ryfel Byd sicrhau bod diogelu hawliau dynol yn flaenoriaeth ryngwladol. Fe wnaeth sefydlu’r Cenhedloedd Unedig baratoi’r ffordd i fwy na 50 o Aelod-wladwriaethau gyfrannu at ddrafft terfynol y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, a fabwysiadwyd ym 1948. Hwn oedd yr ymgais gyntaf i gyflwyno, ar lefel fyd-eang, yr hawliau a rhyddidau sylfaenol a rennir gan bob bod dynol.
Mae’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol yn dod yn fyw yn y fieod pedwar munud hwn, 'Everybody - we are all born free', wedi’i gynhyrchu gan Amnesty.
Fe wnaeth y Datganiad ffurfio’r sylfaen ar gyfer y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, a fabwysiadwyd ym 1950. Fe wnaeth cyfreithwyr Prydeinig chwarae rôl allweddol yn y broses o ddrafftio’r Confensiwn, â Winston Churchill yn cyfrannu’n sylweddol hefyd. Mae’n diogelu hawliau dynol pobl mewn gwledydd sy’n aelodau o Gyngor Ewrop, gan gynnwys y DU.
Fe wnaeth Deddf Hawliau Dynol 1998 yr hawliau hyn yn rhan o’n cyfraith ddomestig. Mae’r Ddeddf yn golygu y gall llysoedd yn y DU wrando ar achosion hawliau dynol. Cyn iddi gael ei phasio, roedd rhaid i bobl gyflwyno eu cwynion i Lys Hawliau Dynol Ewrop yn Strasbourg, Ffrainc.
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Jun 2019