Mae'r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am gyflawniad y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR) ym Mhrydain Fawr ers ein hadroddiad diwethaf yn 2016. Mae'n nodi lle mae cynnydd wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf a lle mae angen gwaith pellach.
Mae'n ymdrin â'r pynciau canlynol:
• y fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol
• amodau yn y gwaith
• tlodi
• tai
• gofal cymdeithasol
• mynediad i ofal iechyd
• bywyd diwylliannol
Mae ein hadroddiad yn pwysleisio bod cydraddoldeb a pheidio â gwahaniaethu yn hanfodol i wireddu hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Rydym wedi gwneud argymhellion i lywodraethau’r DU a Chymru. Rydym yn eu hannog i ddefnyddio proses adrodd ICESCR i gryfhau eu hymdrechion i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran mwynhau hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, a gwella cydymffurfiaeth â'u rhwymedigaethau hawliau dynol.