- Hafan
- Hawliau Dynol
- Ein gwaith hawliau dynol


Ein gwaith hawliau dynol
In this section you can read about the work we do on human rights issues.
Mae’r adran hon o’r wefan yn rhoi rhagor o wybodaeth ichi ynghylch gwaith Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gan gynnwys ein cenhadaeth i:
- hyrwyddo ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a diogelwch hawliau dynol, ac
- annog awdurdodau cyhoeddus i gydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol.
Rydym yn gorff statudol, a sefydlwyd gan Ddeddf Seneddol. Rydym hefyd yn Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol (NHRI) statws ‘A’ a achredir gan y Cenhedloedd Unedig (CU). Felly, rydym yn wir annibynnol o’r Llywodraeth.
Rydym yn herio’r Llywodraeth a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus os ydynt yn torri ar hawliau dynol, ac yn gweithio i gryfhau diogelwch hawliau dynol a deddfwriaeth ynghylch cydraddoldeb. Cyflwynir ein prif weithgareddau isod.
- Rydym yn monitro’r sefyllfa hawliau dynol ym Mhrydain, yn adrodd am ein canfyddiadau ac argymhellion wrth y CU, y Llywodraetth a’r Senedd.
- Hefyd rydym yn adrodd am gynnydd Prydain ynghylch diogelu cydraddoldeb a hawlioau dynol fel rhan o’n dyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006. Yn 2015, fe wnaethom gyhoeddi ‘A yw Prydain yn decach?’, yr adolygiad mwyaf erioed o gydraddoldeb a hawliau dynol.
- Rydym yn defnyddio ein pwerau cyfreithiol i wella diogelwch hawliau dynol. Ers 2011, rydym wedi dal y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill i gyfrif mewn mwy na 70 o achosion. Darllenwch ragor ynghylch ein gwaith cyfreithiol ar waith.
- Rydym yn dal i fwydo i mewn i’r Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol, broses o adolygu gan gymheiriaid a sefydlwyd gan Gyngor Hawliau Dynol y CU, lle mae Aelod-wladwriaethau'r CU yn archwilio cofnodion hawliau dynol ei gilydd.
- Fel rhan o’n rôl fel ‘NHRI’, mae’r Comisiwn yn darparu gwybodaeth i Gyngor Hawliau Dynol y CU yng Ngenefa. Mae hyn yn cynnwys datganiadau ysgrifenedig a llafar, weithiau wedi’u paratoi ar y cyd ag The Universal Periodic Review (UPR) was established by the UN Human Rights Council The Universal Periodic Review (UPR) was established by the UN Human Rights Council NHRIs eraill.
- Rydym yn hyrwyddo, monitro ac adrodd am y saith cytuniad CU a lofnodwyd gan y DU – rhan bwysig o’n rôl fel NHRI.
- Rydym yn darparu gwybodaeth ar hawliau dynol ar gyfer aelodau’r cyhoedd, sefydliadau cymdeithas sifil ac awdurdodau cyhoeddus. Mae’r wybodaeth hon yn esbonio pa hawliau dynol sydd gennym i gyd, ac yn helpu sefydliadau â dyletswyddau hawliau dynol i ddiwallu eu rhwymedigaethau.
- Rydym yn cynghori’r Llywodraeth a’r Senedd, a Llywodraethau datganoledig Cymru a’r Alban, ar oblygiadau hawliau dynol polisïau a deddfwriaeth arfaethedig, er enghraifft trwy ddarparu sesiynau briffio seneddol ac ymateb i ymgyngoriadau’r Llywodraeth.
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Jun 2021