Proffil
Kishwer, y Farwnes Falkner o Margravine
Cadeirydd at Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Ynghylch
Penodwyd am bedair blynedd o 1 Rhagfyr 2020
Ymunodd Kishwer Falkner â’r Comisiwn ar 1 Rhagfyr 2020. Mae hi hefyd yn gwasanaethu fel Aelod o Dŷ’r Arglwyddi lle mae’n aelod Traws Fainc. Yn ogystal, mae'n aelod o Bwyllgor Gwneud Penderfynu Gorfodi Banc Lloegr.
Yn Nhŷ’r Arglwyddi, hi oedd Cadeirydd Is-bwyllgor Materion Ariannol yr UE ac Aelod o Bwyllgor Dethol yr UE o 2015-19. Roedd hi’n llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol ar Faterion Cartref, Cyfiawnder a Materion Tramor rhwng 2004 a 2015. Mae hi hefyd wedi gwasanaethu ar sawl pwyllgor seneddol gan gynnwys y Pwyllgor Cyfansoddiad, y Cydbwyllgor ar Hawliau Dynol; a'r Cydbwyllgor ar y Strategaeth Ddiogelwch Genedlaethol.
Bu Kishwer yn Gyfarwyddwr Polisi gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol; yn ymchwilydd gwleidyddol yn Ysgrifenyddiaeth y Gymanwlad, ac wedi dal Cymrodoriaethau yng Ngholeg St Antony, Prifysgol Rhydychen (2010), ac yn y Sefydliad Gwleidyddiaeth, Ysgol Lywodraethu Kennedy, Prifysgol Harvard (2006).
Mae cefndir academaidd Kishwer mewn Cysylltiadau Rhyngwladol, gan ennill graddau o Ysgol Economeg Llundain a Phrifysgol Caint.